Cannoedd o swyddi dan fygythiad

  • Cyhoeddwyd
Vion Llangefni

Mae cannoedd o swyddi dan fygythiad mewn nifer o ladd-dai a ffatrioedd prosesu bwyd yng ngogledd Cymru.

Cyhoeddodd cwmni bwyd Vion eu bod am werthu'r ddau safle yn Llangefni a Gaerwen ar Ynys Môn, dau yn ardal Wrecsam, un yn Sandycroft yn Sir y Fflint, a ffatri brosesu St Merryn ym Merthyr Tudful.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni bod canlyniadau eu cynnyrch bwyd wedi bod yn siomedig yn 2011 a 2012, a bod hynny wedi arwain at ailystyried eu gweithgareddau yn eu marchnadoedd yn Yr Almaen, Yr Iseldiroedd a'r DU.

Eu penderfyniad yw i ganolbwyntio'n llwyr ar y ddwy wlad arall, a gwerthu eu holl fusnesau bwyd yn y DU, gan gynnwys y safleoedd yng Nghymru.

Mae'r cwmni wedi bod yn cyflenwi cynnyrch cig eidion, cig oen, porc a chyw iâr i gwsmeriaid yn y diwydiant bwyd.

Yn eu datganiad, dywedodd y cwmni eu bod yn hyderus o werthu rhai o'r safleoedd fel busnesau hyfyw, gan gynnwys y busnesau porc, cig coch a dofednod.

Dywedodd cadeirydd Vion UK, Peter Barr: "Wrth weithio gydag ymgynghorwyr rydym eisoes wedi dechrau trafodaethau manwl gyda nifer o bobl, gan gynnwys rheolwyr, am brynu gwahanol rannau o'r busnes yn y DU, ac mae'r trafodaethau wedi mynd yn dda.

"Mae'r diddordeb yn y busnesau wedi bod yn gryf, a gobeithio y byddwn mewn sefyllfa yn y dyfodol agos i roi manylion pellach am y trafodaethau.

"Bydd y broses o werthu yn cael ei gwblhau mewn modd trefnus a llyfn er mwyn sicrhau parhad y busnesau i'n gweithwyr, cyflenwyr amaethyddol ac eraill a'n cwsmeriaid."

Disgrifiad,

Nia Thomas yn holi Emyr Jones, llywydd Undeb Amaethwyr Cymru ar y Post Cyntaf.

Pryder ffermwyr

Mae'r newyddion wedi achosi pryder i'r diwydiant amaeth. Dywedodd llywydd undeb NFU Cymru, Ed Bailey:

"Yn amlwg mae'r newyddion bod Vion am roi'r gorau i'w gweithredoedd yn y farchnad gig yn y DU yn bryder i ffermwyr Cymru.

"Mae Vion yn un o brif brynwyr cig o ffermydd Cymru ac yn chwarae rôl flaenllaw wrth ychwanegu gwerth at ein cynnyrch.

"Mae'n galondid clywed sylwadau Peter Barr bod llawer o ddiddordeb yn y busnesau yn y DU, ac yn gobeithio y bydd dyfodol hir dymor y safleoedd yng Nghymru yn cael ei sicrhau.

"Er bod hwn yn gyfnod ansicr i ffermwyr Cymru, rydym yn meddwl am y nifer sylweddol o weithwyr Vion yng Nghymru, ac rwy'n siŵr fod ganddynt bryderon am effaith y newyddion am eu cyflogaeth yn y dyfodol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol