Buddsoddi £42.5m mewn badau achub
- Cyhoeddwyd
Mae Sefydliad y Badau Achub wedi cyhoeddi cynlluniau i fuddsoddi £42.5 miliwn yng Nghymru.
Dywedodd swyddogion yr elusen eu bod am wario £10.8 miliwn ar bedwar bad achub newydd a £31.7 miliwn yn fwy ar weithgareddau ar y lan.
Gorsafoedd Porthdinllaen yng Ngwynedd, Moelfre ar Ynys Môn, Tyddewi yn Sir Benfro a'r Mwmbwls yn Abertawe sy'n cael bad achub dosbarth Tamar.
Hefyd bydd llithrfeydd ac adeiladau newydd i'r badau yn cael eu codi ymhob safle.
'Diolchgar'
Dywedodd archwilydd rhanbarthol yr elusen yng Nghymru, Colin Williams, fod y buddsoddiad yn sylweddol.
"Y dosbarth Tamar yw'r bad achub mwyaf blaengar yn dechnolegol i'r elusen ei gynhyrchu erioed. Mae'n ddyletswydd arnom i ddarparu'r badau gorau i'r criwiau o wirfoddolwyr.
"Mae'r diolch am fedru darparu'r badau achub gwych i roddion hael iawn y byddwn yn fythol ddiolchgar amdanyn nhw."
Mae'r badau Tamar yn fwy na'r rhai dosbarth Tyne presennol ac yn gyflymach - maen nhw'n medru teithio ar gyflymder o 25 yn hytrach na 17 not.
Maen nhw hefyd yn cynnwys system gyfrifiadurol fel y gall y criw reoli llawer o ddiogelwch eu seddau.
'Kiwi'
Fe dderbyniodd Porthdinllaen eu bad achub nhw ym mis Awst ond mae'n cael ei gadw yn ei angorfa wrth i'r gwaith o godi adeilad i'w gadw fynd yn ei flaen.
Bydd y gorsafoedd eraill yn derbyn y badau newydd dros y ddwy flynedd nesaf, ond y disgwyl yw mai Moelfre fydd yr orsaf nesaf i dderbyn bad.
Daeth yr arian ar gyfer hwnnw o ewyllys y diweddar Reginald James Clark fu farw ym Mehefin 2004.
Cafodd y morwr, o Seland Newydd yn wreiddiol, ei achub gan yr RNLI pan gafodd ei long ei bomio yn ystod yr Ail Rhyfel Byd ac mae ei deulu wedi gofyn i gael enwi'r bad newydd yn RNLB Kiwi er cof amdano.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2012
- Cyhoeddwyd20 Awst 2012
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2012