Anniddigrwydd am beilonau trydan
- Cyhoeddwyd
Mae'r Grid Cenedlaethol yn gofyn am farn pobl ar sut i ddod ag ynni o ffermydd gwynt yn y môr ac o Wylfa B ar Ynys Môn i'r rhwydwaith trydan dros y 10 i 15 mlynedd nesaf.
Mae'r cwmni wedi cyflwyno pum cynllun i ddechrau'r ymgynghoriad, ac mae'r rhain yn cynnwys gosod ceblau o dan y môr i Lannau Dyfrdwy, a chladdu ceblau o Ynys Môn o dan ddaear.
Defnyddio peilonau i gysylltu Wylfa a'r is-orsaf ym Mhentir ger Bangor yw'r dewis sy'n cael ei ffafrio gan y cwmni, ond dywed rhai pobl yn lleol nad yw'r dewisiadau eraill wedi cael cymaint o sylw.
Byddai claddu'r ceblau yn costio £1 biliwn yn fwy na'r cynllun i osod peilonau.
Mae staff y Grid Cenedlaethol, sydd wedi bod yn hysbysebu'r ymgynghoriad ar daith o gwmpas Gwynedd a Môn, yn dweud eu bod am i'r cyhoedd ddod atyn nhw i ofyn cwestiynau neu leisio pryderon.
Pryder
Cyfrifoldeb y Grid Cenedlaethol yw uwchraddio ac ymestyn yr isadeiledd fel rhan o fuddsoddiad o £110 biliwn mewn ynni ym Mhrydain.
Ond fel sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o Gymru - Powys, er enghraifft - mae tirfeddianwyr a thrigolion lleol yn dweud bod y Grid yn canolbwyntio'r ymgynghoriad ar lwybrau posib ar gyfer peilonau, yn hytrach na'r dewisiadau eraill.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Mummery, sy'n cynrychioli Llanfairpwll ar Gyngor Sir Ynys Môn, nad yw'r Grid wedi bod yn agored am y dewisiadau.
"Maen nhw wedi ceisio peidio ystyried yr alwad am osod ceblau dan ddaear neu o dan y môr," meddai.
"Roedden nhw'n dweud nad hynny oedd eu dewis cyntaf, felly doedd hynny ddim wir yn rhan o'r drafodaeth."
'Diffygiol'
Tirfeddiannwr dylanwadol ar Ynys Môn yw rheolwr cyffredinol Stad Bodorgan, Tim Bowie, ac mae yntau hefyd yn bryderus am beilonau, ac am yr ymgynghoriad.
"Ychydig iawn o bobl sydd wedi bod ym mwyafrif y cyfarfodydd," meddai. "Fe es i a chydweithiwr i un mewn ysgol leol a dim ond pump ohonom ni oedd yno.
"Rwy'n credu bod yr ymgynghoriad yn ddiffygiol mewn ffyrdd eraill hefyd. Mae'n diystyried y dewis o osod ceblau o dan y môr yn syth, ac fe gawsom wybod nad oedd hynny'n dderbyniol oherwydd y gost."
Dywedodd Llywelyn Rhys o Renewable UK Cymru fod yn rhaid ymestyn y grid i ardaloedd newydd wrth i Brydain symud tuag at ddulliau carbon-isel o gynhyrchu trydan.
Bydd swyddogion y Grid Cenedlaethol yn ystyried sut i ddelio gyda gwrthwynebiad i'w cynlluniau yng nghanolbarth Cymru, ac fe fyddan nhw hefyd yn ymwybodol o'r anniddigrwydd yng Ngwynedd a Môn.
Cymunedau
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cysylltiadau ynni yn fater i lywodraeth y DU, ond ychwanegodd llefarydd ar ei ran:
"Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cryfhau'r grid yng ngogledd Cymru. Rydym hefyd yn ystyriol o effaith yr isadeiledd newydd ar gymunedau yng ngogledd Cymru.
"Dyna pam y byddwn yn parhau i drafod gyda'r Grid Cenedlaethol ar isadeiledd newydd y grid o fewn gogledd Cymru, ac i annog lliniaru effaith weledol unrhyw linellau trosglwyddo newydd arfaethedig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012