Enwebiadau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Adran Chwaraeon BBC Cymru wedi cyhoeddi rhestr fer o enwebiadau ar gyfer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Cymru 2012.
Roedd y gystadleuaeth yn frwd mewn blwyddyn oedd yn llawn o ddigwyddiadau chwaraeon mawr, a gorchestion niferus gan athletwyr o Gymru.
Bydd cyfle i'r cyhoedd bleidleisio am eu hoff gystadleuydd o 8am fore Llun, Rhagfyr 3 tan 6pm ddydd Sadwrn, Rhagfyr 8.
Yn ystod yr wythnos honno fe fydd yr holl rifau perthnasol ar gyfer pleidleisio yn cael eu cyhoeddi ar radio, teledu ac ar wefannau BBC Cymru.
Yn ystod yr wythnos hefyd bydd mwy o fanylion am bob un o'r bobl a enwebwyd yn ymddangos hefyd.
Enwebiadau
Y 10 sydd wedi eu henwebu - yn nhrefn y wyddor - yw :-
Gareth Bale - pêl-droediwr Cymru a Tottenham Hotspur;
Leanda Cave - triathlon Ironman - fersiwn hirach a rasys triathlon arferol, ac mae Leanda yn bencampwraig y byd;
Nathan Cleverly - pencampwr bocsio pwysau is-drwm WBO y byd;
Mark Colbourne - seiclwr a enillodd Fedal Aur a dwy Fedal Arian yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain;
Aled Sion Davies - Medal Aur am daflu'r ddisgen ac Efydd am daflu pwysau yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain;
Tom James - enillodd Fedal Aur am rwyfo yn y Gemau Olympaidd yn Llundain i ychwanegu at yr un enillodd yn Beijing yn 2008;
Jade Jones - enillodd Fedal Aur mewn taekwondo yn y Gemau Olympaidd yn Llundain;
Dan Lydiate - un o sêr tîm rygbi Cymru wrth iddyn nhw ennill y Gamp Lawn yn 2012;
Josie Pearson - enillodd Fedal Aur gan dorri record y byd am daflu'r ddisgen yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain;
Geraint Thomas - un arall a enillodd Fedal Aur yn Llundain am yr eildro fel rhan o dîm seiclo'r dynion.
Enillydd y wobr yn 2011 oedd Chaz Davies.
Yn ystod 2011 fe wnaeth y gŵr o Drefyclo ym Mhowys ddangos ei ddoniau wrth ennill Pencampwriaeth y Byd Supersport.
Yn 24 oed, ef hefyd oedd y Cymro cyntaf i ennill teitl dosbarth Superbike y byd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2011