Darganfod corff oedrannus mewn tŷ lle oedd llifogydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi dweud mai Margaret Hughes, 91 oed o Tai'r Felin, Llanelwy, oedd y wraig gafodd ei darganfod yn farw mewn tŷ yn y ddinas ddydd Mawrth.
Bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ddydd Gwener.
Daethpwyd o hyd i'w chorff tua hanner dydd wrth i'r gwasanaethau brys tsiecio nad oedd neb wedi ei adael ar ôl.
Anesboniadwy
Does 'na ddim amgylchiadau amheus ond mae'r heddlu'n trin y farwolaeth fel un anesboniadwy.
Cafodd 500 eu cynghori i symud o'u cartrefi yn y ddinas i'r ganolfan hamdden ger Ysgol Glan Clwyd lle mae 'na ganolfan frys.
Tai yng ngogledd y ddinas, ym Mharc Roe a Stryd y Felin, sydd wedi diodde' waetha.
Mae'r sefyllfa yn wael yn ardal Rhuthun gyda cheir o dan ddŵr a thua 50-60 o dai ar stad Glasdir wedi eu heffeithio.
Mae 'na lifogydd hefyd yn Llanfairtalhaearn, Llangernyw a Llansannan, Sir Conwy, a chafodd canolfan arbennig ei hagor yn Neuadd Goffa, Llanfairtalhaearn.
Dywedodd y gwasanaeth tân fod y sefyllfa yn Llanfairtalhaearn yn "ddifrifol".
Yn Rhuddlan mae lefel yr afon yn uchel ac mae pobl yn cael eu symud o tua 15 o adeiladau yn y dref.
Dywedodd yr Uwch Arolygydd Peter Newton o Heddlu'r Gogledd: "Mae ymateb brys wedi bod ar waith oherwydd y tywydd gwael er mwyn rhoi blaenoriaeth i unrhywun sy' mewn perygl.
"Ein blaenoriaeth yw amddiffyn pobl ac rydym yn cydweithio gyda'r asiantaethau eraill."
Hyd yr eithaf
Dywedodd fod y gwasnaeth tân ac achub yn gweithio hyd yr eithaf.
"Ers 6pm neithiwr maen nhw wedi derbyn dros 130 o alwadau ... ac mae diffoddwyr yn ymateb i alwadau brys yn yr holl ardal.
"Dylai pobl ffonio'r gwasanaeth os yw pobl mewn perygl ... bydd hyn yn ein helpu ni i flaenoriaethu galwadau."
Os yw unrhyw un yn poeni am lifogydd yn eu hardal, y cyngor ydi ffonio llinell wybodaeth Asiantaeth yr Amgylchedd ar 0845 988 1188 gan ddefnyddio'r rhif 191907 am y wybodaeth ddiweddaraf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2012