'Cannoedd wedi gorfod gadael eu cartrefi'
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth trigolion Llanelwy ddeffro ddydd Mawrth i wynebu llifogydd yn y ddinas wedi i Afon Elwyn orlifo

Fel arfer yn ystod oriau brig mae'r cylchdro yma yn Llanelwy yn brysur iawn ond yn amlwg doedd dim modd i gerbydau fod yno ddydd Mawrth

Cafodd y ddwy ddynes yma a'u ci eu hachub mewn canw yn Llanelwy

Cafodd cannoedd o bobl eu cymorthwyo i adael eu cartrefi a'u symud i ddiogelwch y ganolfan hamdden yn Llanelwy

Oherwydd lefel y dŵr mae 'na dipyn o lanast yn Llanelwy

Roedd lefel y dŵr mewn rhai llefydd yn Llanelwy dros gerbydau

Mae cannoedd o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi o ganlyniad i'r llifogydd

Mae nifer o bethau wedi symud o'u llefydd arferol o ganlyniad i'r llifogydd

Roedd 'na lifogydd hefyd yn Rhuthun gyda degau o bobl yn gorfod gadael eu cartrefi ar ystâd Glasdir yn y dref
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2012