Cleifion yn cael eu gorfodi i ddisgwyl yn hirach am driniaeth

  • Cyhoeddwyd
Cleifion ym Mhowys i ddisgwyl yn hirach am driniaeth yn Lloegr
Disgrifiad o’r llun,

Cleifion ym Mhowys i ddisgwyl yn hirach am driniaeth yn Lloegr

Mae un o fyrddau iechyd Cymru wedi penderfynu y dylai cleifion sy'n cael eu hanfon i ysbytai yn Lloegr ddisgwyl yn hirach am driniaethau er mwyn arbed arian.

Mae BBC Cymru yn deall mai dim ond yn achos triniaethau cleifion sydd wedi disgwyl rhwng 32 a 36 wythnos y bydd Bwrdd Iechyd Powys yn talu'r ymddiriedolaethau yn Lloegr.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn awyddus bod 95% o'r holl gleifion yn cael triniaeth o fewn 26 wythnos.

Gan nad oes ysbytai mawr ym Mhowys, mae nifer o gleifion y sir yn cael triniaethau yn Lloegr.

£2m

Mae'n debyg y gallai'r bwrdd iechyd arbed £2m drwy orfodi cleifion i ddisgwyl yn hirach i gael triniaethau dros y ffin.

Fel pob bwrdd iechyd yng Nghymru mae Bwrdd Iechyd Powys dan bwysau i arbed arian ac mae yna amcangyfrif y bydd diffyg o £9m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Mae Aelod Cynulliad Maldwyn, y Ceidwadwr Russell George, wedi dweud ei fod wedi siarad â rhai cleifion oedd yn eu dagrau o glywed y gallen nhw orfod disgwyl yn hirach am driniaeth.

Dywedodd ei fod wedi galw ar y Gweinidog Iechyd, Lesley Grifiths, i ymyrryd.

Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud ei fod yn benderfynol o gyrraedd targedau rhestrau aros Llywodraeth Cymru.

Dim ond achosion sydd ddim yn rhai brys fydd yn gorfod disgwyl yn hirach am driniaeth, meddai, a fydd yna ddim risg ychwanegol i iechyd unrhyw glaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol