Haint ynn: Achos newydd mewn ysgol yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd
Coeden onnenFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Hwn yw'r wythfed achos o'r clefyd yng Nghymru

Mae achos o'r afiechyd sy'n lladd coed ynn wedi cael ei ganfod yng Nghasnewydd.

Cafodd y planhigyn a ddaeth yn wreiddiol o feithrinfa yn y gogledd ei ddarganfod ar gaeau Ysgol Uwchradd Llanwern.

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi cadarnhau bod y ffwng heintus yno ac mae cyngor y ddinas yn cymryd camau i atal yr afiechyd rhag lledu.

Hwn yw'r wythfed achos o'r clefyd yng Nghymru.

Cafodd yr achos cyntaf o'r ffwng heintus ei ganfod yng Nghymru mewn coetir yn Sir Gâr yn gynharach ym mis Tachwedd.

Mae pump o'r safleoedd mewn coetir sy'n eiddo Llywodraeth Cymru yn Nyffryn Gwy yn y de-ddwyrain ac yng nghoetir Coed Gwent ger Casnewydd.

Ac fe fu achos arall ar dir Coleg Glynllifon yng Ngwynedd.

Mae'r holl goed ifanc ar y safleoedd hyn wedi eu dinistrio.

Mae'r onnen yn bwysig oherwydd ei phren, fel coed tân, fel cynefin bywyd gwyllt a bioamrywiaeth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol