Adolygu cynllun Cymraeg chweched dosbarth ym Mhowys?
- Cyhoeddwyd
Bydd cabinet Cyngor Powys yn penderfynu a ddylai'r awdurdod lleol ddileu cynllun i ganoli addysg Gymraeg chweched dosbarth mewn tair ysgol yn y sir ai peidio.
Y nod oedd canoli darpariaeth y Gymraeg yn ysgolion Llanfair-ym-Muallt a Llanfair Caereinion, a chadw Ysgol Bro Ddyfi ym Machynlleth yn ysgol ddwyieithog.
Ond wedi cyfarwyddyd newydd gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi, gofynnwyd i Gyngor Powys gyflwyno Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESP) newydd erbyn Rhagfyr 14.
Prif flaenoriaethau'r cynllun diwygiedig yw cynyddu nifer y disgyblion fydd yn derbyn addysg Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar a gwella'r cynnig o ran y cwricwlwm addysg Gymraeg i ddisgyblion ysgol uwchradd a disgyblion sy'n derbyn addysg ôl-16.
Ysgolion Dwyieithog
Mewn adroddiad fydd gerbron y cabinet ddydd Mawrth, bwriad swyddogion y cyngor yw y bydd ysgolion uwchradd Llanfair-ym-Muallt, Llanfair Caereinion, Llanfyllin ac Ysgol Bro Ddyfi ym Machynlleth yn parhau i fod yn ysgolion dwyieithog o ran addysg ôl-16.
Mae'r cynllun diwygiedig hefyd yn argymell y dylai Ysgolion Uwchradd Llanidloes ac Aberhonddu barhau i ddarparu addysg Saesneg yn unig i ddisgyblion ôl-16.
Ond yn ôl yr adroddiad, "wrth i'r system newydd ddatblygu, efallai y bydd rhaid arolygu sut a ble fyddwn ni'n darparu addysg Gymraeg ôl-16 yn y dyfodol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd9 Awst 2012
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2012