Benthyciadau i daclo diffyg arian ysgolion ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd
Plant ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cyngor yn cynnig benthyciadau i bedair ysgol uwchradd ac wyth ysgol gynradd

Bydd 12 ysgol ym Mhowys yn cael cynnig benthyciadau 10 mlynedd oddi wrth y cyngor sir i daclo eu diffygion ariannol o £1.7 miliwn.

Mae gan yr ysgolion yr hawl i orwario rywfaint ond mae gan Ysgol Uwchradd Aberhonddu, er enghraifft, ddiffyg ariannol o fwy na £700,000.

Bydd cyngor Powys yn cynnig benthyciadau i bedair ysgol uwchradd ac wyth ysgol gynradd ac mae'r cyngor yn mynnu bod yr ysgolion yn creu cynlluniau adferiad erbyn Medi 30.

Dywedodd y cyngor fod yr ysgolion yn cymryd camau i ddod i'r afael â'r broblem.

Ymateb y mae'r awdurdod lleol i gyfarwyddyd Estyn, y corff arolygu, i sicrhau bod ysgolion yn taclo diffygion ariannol mawr.

Mae gan ysgolion cynradd y sir yr hawl i orwario hyd at £50,000 neu 5% o'u cyllid ac mae gan ysgolion uwchradd yr hawl i orwario hyd at £100,000 neu 7.5% o'u cyllid hwythau.

Dywedodd y cyngor fod y diffygion ariannol wedi eu hachosi'n rhannol gan lai o ddisgyblion.

Mae ysgolion yn cael eu talu am bob disgybl sydd ar y gofrestr ond mae problemau'n codi pan nad yw'r ysgolion yn addasu eu cyllidebau.

Dywedodd adroddiad y cyngor y byddai Ysgol Uwchradd Aberhonddu'n gallu ad-dalu tua £50,000 y flwyddyn pe bai'r ysgol yn creu cynllun effeithiol.

Er hynny, mae llywodraethwyr yr ysgol wedi honni bod y cyngor sir yn rhannol gyfrifol am y diffyg ariannol.

"Fframwaith polisi'r cyngor yw peidio â dileu unrhyw ddiffyg ariannol," meddai'r adroddiad.

'Yn berthnasol'

"Ond rhaid i'r broses o ddelio ag unrhyw ddiffygion fod yn berthnasol i'r gofynion ar gyfer gwarchod a gwella addysg disgyblion."

Dywedodd y cyngor y byddai'n rhaid i'r ysgolion fyddai'n derbyn y benthyciadau dalu llog.

Ychwanegodd yr adroddiad: "Bydd y benthyciad, i bob pwrpas, yn cael gwared â'r diffyg ariannol ac yn gosod seiliau ariannol mwy cadarn ar gyfer yr ysgol."

Dywedodd cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Uwchradd Aberhonddu, David Meredith, nad oedd am gynnig unrhyw sylw ar y mater tan iddyn nhw gyfarfod â'r cyngor ymhen rhyw 10 diwrnod.

Dywedodd adroddiad y cyngor fod Ysgol Maesydderwen wedi creu cynllun allai gael gwared â'i diffyg ariannol erbyn mis Ebrill 2016 a bod Ysgol John Beddoes yn Llanandras yn bwriadu lleihau ei diffygion i £91,000 erbyn 2014-15.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol