Dau bwyllgor i drafod newid gwaharddiad ysmygu
- Cyhoeddwyd
Mae dau o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi dechrau ymgynghori ar y cyd ynglŷn ag eithrio setiau ffilm a theledu o'r gwaharddiad ysmygu.
Mae gweinidogion eisiau newid y gyfraith am eu bod yn pryderu na fydd cynhyrchwyr yn dod i Gymru os nad yw actorion yn cael ysmygu tra'n ffilmio.
Ond mae rhai Aelodau Cynulliad yn gwrthwynebu'r cynllun ac eisiau edrych ar yr eithriad yn fanylach.
Byddai'n rhaid i'r rheolau newydd fynd i bleidlais yn y Senedd cyn newid y ddeddf.
Er mwyn ystyried y gwelliannau arfaethedig, mae'r Pwyllgor Menter a Busnes a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi sefydlu is-bwyllgor yr un a byddant yn astudio'r dystiolaeth gyda'i gilydd.
'Angen masnachol'
Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes: "Ar y naill law byddwn yn ystyried a oes angen masnachol i'r gwelliant hwn ac a fydd yn cyflawni'i nod o gefnogi'r diwydiannau creadigol yng Nghymru."
Ychwanegodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Ond hyd yn oed os y cadarnheir fod angen masnachol, mae'n rhaid cydbwyso hwn yn erbyn materion fel cynnig amddiffyniad digonol i berfformwyr eraill, staff cynhyrchu ac aelodau'r cyhoedd ynghyd ag unrhyw ystyriaethau polisi iechyd sy'n berthnasol i'r gwelliant hwn."
Cafodd eithriad ei gynnwys yn y gwaharddiad ysmygu mewn adeiladau cyhoeddus yn Lloegr ond dyw'r ddeddf yng Nghymru, a gyflwynwyd yn 2007, ddim yn caniatáu ysmygu ar set.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2012