Her i siarad yr iaith tu allan i'r ysgol yn ôl Prif Weinidog Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud mai'r her nesaf i'r Gymraeg yw sicrhau bod pobl yn ei siarad y tu allan i'r dosbarth.
Fe ddaw sylwadau Carwyn Jones cyn i ganlyniadau Cyfrifiad 2011 gael eu cyhoeddi am 9.30am ddydd Mawrth.
Bydd yr ystadegau yn cynnwys gwybodaeth am nifer y siaradwyr Cymraeg a nifer o ffeithiau eraill gan gynnwys oedran y boblogaeth, eu crefydd a grwpiau ethnig.
Dywed y Prif Weinidog ei fod yn disgwyl gweld gostyngiad yng ngharan y siaradwyr Cymraeg yn y cadarnleoedd traddodiadol.
Ond ychwanegodd ei bod yn bosib y bydd cynnydd mewn mannau eraill, fel y de ddwyrain.
Yn ôl yn 2003 nod Llywodraeth Cymru oedd bod y ganran o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg wedi cynyddu 5% erbyn 2011 a bod lleihad y nifer y cymunedau lle mae'r Gymraeg yn gadarn ac yn iaith fyw bob dydd yn cael ei atal.
Dywedodd Mr Jones mai'r her oedd perswadio pobl ifanc sydd wedi dysgu'r iaith ac yn ei defnyddio yn yr ysgol, i'w siarad yn y gymuned a gyda'u ffrindiau.
Dywedodd hefyd fod ei blant ef yn siarad Saesneg gyda'i gilydd ac efo ffrindiau, er eu bod yn siarad Cymraeg yn yr ysgol ac efo fo.
Fel tad dywedodd nad oedd ganddo ateb i'r broblem.
Ychwanegodd bod hi'n bwysig fod y llywodraeth yn cydweithio gyda Mentrau Iaith er mwyn hybu defnydd o'r Gymraeg y tu hwnt i waliau'r ysgol.
Awgrymodd bod hynny yn bwysicach i nifer o bobl yn hytrach na dadleuol am statws yr iaith, er bod hynny'n bwysig.
Cyfrifiad 2001 oedd y tro cyntaf i ganran y siaradwyr Cymraeg ddangos cynnydd, ers i'r cwestiwn ynglŷn â gallu i siarad yr iaith ymddangos ar ffurflenni.
Yn 2001 roedd 20.8% yn siarad yr iaith o'i gymharu â 18.5% yn 1991.
Ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf roedd bron i hanner poblogaeth Cymru'n siarad yr iaith.
Ond cafwyd dirywiad cyson ers hynny.
Yng nghyfrifiad 2001 roedd 215,292 o bobl hefyd yn dweud fod ganddyn "rhywfaint" o wybodaeth o'r Gymraeg, gan olygu fod 797,660 neu 28.4% o'r boblogaeth hefyd rhywfaint o wybodaeth o'r iaith.
Ond i gefnogwyr yr iaith roedd yna hefyd bryder ynglŷn â rhai o ganlyniad cyfrifiad 2001
Parhau i ostwng wnaeth canran y siaradwyr Cymraeg yn y cadarnleoedd.
Yng Ngheredigion, er enghraifft, syrthiodd y canran rhwng 1991 a 2001 o 59.1% i 51.8%.
Braslun fydd yn cael ei roi ddydd Mawrth, gyda ffigyrau mwy manwl, ar lefel wardiau, yn cael eu rhyddhau yn ystod y misoedd nesa'.
Fe fydd yr ystadegau yn son am allu pobl Cymru i siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn ogystal â nodi faint sy'n cyfrif eu hunain yn Gymry a'i pheidio.
Yn gynharach yn y flwyddyn fe gyhoeddwyd bod poblogaeth Cymru bellach dros 3 miliwn.
Cwestiynau newydd
Cafodd pob cartref yng Nghymru y cyfle i lenwi'r ffurflen a oedd am y tro cyntaf erioed yn cynnwys blwch ticio i nodi eich bod yn Gymro neu'n Gymraes fel rhan o'r cwestiwn newydd am hunaniaeth genedlaethol.
Roedd yno saith cwestiwn newydd o'i gymharu â ffurflenni blaenorol.
Roedd dau ohonyn nhw'n rhoi sylw i'r cartref, gan ofyn am nifer yr ystafelloedd gwely a'r math o wres canolog.
Cwestiynau am breswylwyr oedd y pump arall, gan ofyn am ba basportau sydd ganddyn nhw, eu hunaniaeth genedlaethol, y flwyddyn y daethant i'r DU ac am ba mor hir y mae pobl sydd newydd gyrraedd yn bwriadu aros, beth yw eu prif iaith ac a oes ganddyn nhw ail gyfeiriad.
Caiff yr ystadegau o'r Cyfrifiad eu defnyddio fel sylfaen i'r gwaith o ddyrannu biliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus i'w wario ar wasanaethau lleol fel addysg, trafnidiaeth ac iechyd ac mae'r bobl hynny sy'n creu polisïau yn y llywodraeth ganolog a llywodraeth leol yn eu defnyddio er mwyn deall anghenion cymunedau a chymdogaethau gwahanol.