Y Llywydd yn ailgynnull y Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, wedi galw Aelodau'r Cynulliad yn ôl o doriad y Nadolig yn dilyn cais gan Carwyn Jones, y Prif Weinidog.
Y nod ar gyfer dydd Mercher Rhagfyr 19 yw ceisio datrys anghydfod ynglŷn â threth y cyngor.
Methodd y Cynulliad ddydd Mercher diwethaf â chyflwyno cynlluniau brys ar gyfundrefn newydd lwfansau treth cyngor.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi gobeithio y byddai'r Cynulliad yn pleidleisio i gymeradwyo cynllun budd-dal treth y cyngor fydd yn effeithio ar 330,000 o gartrefi.
Honnodd Llywodraeth Cymru fod yna oedi o du'r Trysorlys wrth ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol.
Ond gwadu hynny mae'r Trysorlys sydd wedi dweud bod cynghorau lleol yn Lloegr wedi cael yr un faint o wybodaeth ac wedi paratoi.
'Cydbwysedd'
Dywedodd y Llywydd: "Wrth benderfynu ailgynnull y Cynulliad ar Ragfyr 19, rwy'n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng y galwadau i ystyried y Rheoliadau hyn fel mater o bwys a'r angen i ddarparu digon o amser i graffu arnynt yn ddigonol.
"Hoffwn ddiolch i David Melding AC, y Dirprwy Lywydd, sydd wedi dweud, ac yntau'n Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y bydd yn gwneud popeth posibl i sicrhau y bydd ei Bwyllgor yn craffu ar y Rheoliadau diwygiedig ac adrodd arnynt cyn y ddadl."
Ddydd Iau dywedodd John Puzey, Cyfarwyddwr Shelter Cymru, y byddai'r ffrae yn y Cynulliad yn creu "pryder diangen" i bobol sy'n dibynnu ar y budd-dal.
Mae'r gwrthbleidiau yn hawlio fod Gweinidogion wedi disgwyl i Aelodau Cynulliad ddarllen ac ystyried dogfen 300 tudalen yn amlinellu'r cynlluniau - o fewn hanner awr cyn pleidleisio.
Llywodraeth Cymru gafodd gyfrifoldeb gweinyddu'r drefn dreth y cyngor ond mae'n colli 10% o'r arian i weinyddu'r system.
Mae'r Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sergeant, wedi mynnu nad yw'r £20 miliwn sydd ei angen i lenwi'r twll ariannol ar gael.
Mae'r gwrthbleidiau wedi gofyn sut mae gweddill y DU yn gallu bod yn barod tra bod Cymru ar ei hôl hi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2012