Wyth o siopau Comet yn cau'n fuan

  • Cyhoeddwyd
Comet
Disgrifiad o’r llun,

Ers i'r cwmni fynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn Nhachwedd mae mwy na 1,000 allan o 6,611 wedi colli eu swyddi.

Mae wyth o siopau Comet yng Nghymru'n cau'n fuan ymhlith 54 yn y Deyrnas Gyfun.

Ddydd Sul mae siop Bangor yn cau, ddiwrnod cyn siopau Caerdydd (Valegate), Cwmbrân, Hwlffordd, Llanelli, Llandudno, Llantrisant a Merthyr Tudful.

Eisoes mae siopau'r Rhyl a Wrecsam wedi cau a 51 o swyddi wedi diflannu oherwydd cau canolfan ddosbarthu yng Nghasgwent.

Erbyn dydd Mawrth dim ond pedair siop fydd ar agor yng Nghymru, ym Mhen-y-bont, Caerdydd (Heol Casnewydd), Casnewydd ac Abertawe.

Os na fydd prynwr, fe allen nhw gau erbyn y Nadolig.

'Nifer fach'

Dywedod y gweinyddwyr Deloitte eu bod yn trafod â "nifer fach o brynwyr posib'".

Ond honnodd John Roberts, pennaeth Appliances Online, na fyddai'r cwmni'n masnachu erbyn y Nadolig.

Mae wedi cynnig miliynau o bunnau, meddai, am frand y cwmni a'u gwefan.

Yn Nhachwedd cyhoeddodd Comet y byddai 125 o siopau'n cau allan o 236 ac roedd rhai wedi awgrymu y byddai 3,000 o swyddi'n diflannu.

Ers i'r cwmni fynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn Nhachwedd mae mwy na 1,000 allan o 6,611 wedi colli eu swyddi.

Ers 2008 mae'r amgylchiadau wedi bod yn anodd a llai o wario'n golygu bod nifer o siopau'r Heol Fawr wedi mynd i'r wal.