Jones i wrthwynebu newid y ddeddf

  • Cyhoeddwyd
Ysgirfennydd Cymru David Jones
Disgrifiad o’r llun,

David Jones yn cadarnhau ei wrthwynebiad

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi cadarnhau y bydd e'n pleidleisio yn erbyn bwriad y Llywodraeth i gyfreithloni priodasau hoyw yng Nghymru a Lloegr.

Eisoes cyhoeddodd dirprwy David Jones yn Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, y bydd e hefyd yn pleidleisio yn erbyn y mesur.

Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi datgan ei gefnogaeth i'r bwriad, ond fe fydd aelodau seneddol Ceidwadol yn cael pleidleisio yn ôl eu cydwybod ar y mater.

Dywed y llywodraeth y byddai deddfwriaeth newydd yn caniatáu priodasau hoyw yn yr eglwys ond ddim yn eu gorfodi.

'Gwallgof'

Ond mae'r cynigion wedi gwylltio nifer o aelodau Ceidwadol, ac mae son y bydd hyd at 130 yn gwrthwynebu - gan gynnwys saith o'r wyth AC Ceidwadol o Gymru.

Yn eu plith mae AS Mynwy David Davies.

Disgrifiad o’r llun,

Mae David Davies yn gwrthwynebu'r Mesur newydd

Mae o wedi disgrifio'r cynnig fel un gwallgof.

Mae disgwyl i'r Llywodraeth wneud cyhoeddiad ffurfiol yr wythnos hon.

"Pe bai yna unrhyw feysydd lle nad oes cydraddoldeb gyda chwplau priod yna byddaf yn fwy na hapus i newid seremonïau sifil. Felly dwi ddim yn gweld pam fod agen y ddeddfwriaeth yma," meddai Mr Davies.

Mae o'n poeni na fydd llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu gwarantu na fyddai yna orfodaeth ar eglwysi i gynnal priodasau hoyw.

Cydnabyddiaeth

Dywed AC Mynwy fod llawer o gyfreithiau erbyn hyn yn benderfyniadau gan farnwyr yn y Llys Ewropeaidd neu Llys Iawnderau Ewropeaidd.

"Rwy'n poeni oherwydd yn wreiddiol cafwyd son am ymgynghoriad, ond yn hytrach rydym yn nawr yn cael priodas hoyw wedi yn cael ei chydnabod gan y gyfraith - rhywbeth sy'n agor y drws i orfodi pob eglwys i orfod gwneud hynny."

Dywed y llywodraeth eu bod yn hapus i grwpiau crefyddol ganiatáu priodasau o'r un rhyw pe baent yn dymuno gwneud.

Ond maen nhw hefyd yn mynnu na fydd y ddeddfwriaeth newydd yn gorfodi hynny .

Ymhlith Ceidwadwyr amlwg sy'n cefnogi'r newid mae Boris Johnson a'r Ysgrifennydd addysg Michael Gove.

Mae Mr Davies yn poeni y bydd nifer o bobl sy'n weithgar dros y Ceidwadwyr yn cael eu dadrithio gyda'r blaid oherwydd y ddeddf newydd.

Ddydd Gwener dywedodd Mr Cameron ei fod yn gredwr cryf mewn priodas ac nad oedd o am eithrio pobl hoyw o'r weithred.