Ail godi maen hir o'r Oes Efydd yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Bedd MorusFfynhonnell y llun, Pete Crane
Disgrifiad o’r llun,

Mae Maen hir Bedd Morus ar Fynydd Dinas ger Trefdraeth wedi bod yno er 3,500 o flynyddoedd.

Mae maen hir yn Sir Benfro sy'n dyddio yn ôl i'r Oes Efydd ac a gafodd ei ddymchwel gan gar y llynedd, wedi ei hail godi.

Mae Maen hir Bedd Morus ar Fynydd Dinas ger Trefdraeth wedi bod yno ers 3,500 o flynyddoedd.

Cafodd y maen hir 6 throedfedd o uchder (1.8 metr) ei symud a'i adfer wedi i'r car ei ddymchwel ar hap cyn iddo gael ei ail osod yn ddiweddar.

Mae'r garreg yn un sydd wedi ei chofrestru ac yn pwyso dros ddwy dunnell.

Mae hi wedi ei ac yn sefyll ar y ffin rhwng plwyfi Trefdraeth a Phontfaen ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Defodau

Ar ôl i'r maen gael ei symud i leoliad cudd i wneud y gwaith adfer, fe wnaeth archeolegwr y parc cenedlaethol, Pete Crane a'r Athro Geoff Wainwright mewn partneriaeth â CADW, asiantaeth henebion Llywodraeth Cymru, gloddio lle bu'r garreg yn sefyll.

Yn ôl yr arbenigwyr hyn roedd Bedd Morus wedi sefyll yn yr unfan am oddeutu 3,500 o flynyddoedd.

Y gred yw bod y maen hir wedi ei ddefnyddio ar gyfer defodau yn ystod yr Oes Efydd.

Dywedodd cynghorydd y Parc Cenedlaethol, Paul Harries fod Bedd Morus yn rhan bwysig o dreftadaeth Trefdraeth a bod dwy chwedl yn cysylltu Morus, oedd yn lleidr drwg-enwog, â'r maen hir.

Honnir y chwedlau bod Morus wedi cael ei grogi am a'i fod wedi ei gladdu o dan y maen hir.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol