Adnodd addysgu digidol i Gymru
- Cyhoeddwyd
Bydd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, yn lansio adnodd dysgu digidol newydd o'r enw 'Hwb'.
Mae'r platfform dwyieithog ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 3-19 oed yng Nghymru, ac fe ddaw ar ôl adolygiad o sut y mae athrawon a disgyblion yn defnyddio technoleg ddigidol a orchmynnwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni.
Dyma'r ail gam mewn cyfres a gyhoeddwyd gyntaf gan Mr Andrews ym mis Mehefin.
Cafodd y cam cyntaf - sefydlu Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol - ei weithredu eisoes ac fe ddechreuodd y cyngor ar ei waith ym mis Medi.
Creu adnoddau
Casgliad o adnoddau a gwasanaethau ar-lein i athrawon, dysgwyr, llywodraethwyr, rhieni/gofalwyr a rhanddeiliaid eraill yw Hwb.
Bydd athrawon a dysgwyr yn gallu creu a rhannu eu hadnoddau eu hunain, cydweithio a chael gafael ar adnoddau o bob rhan o'r wefan.
Bydd hefyd yn rhoi cyfle i ysgolion a cholegau greu a chynnal eu platfformau eu hunain, wedi'u teilwra i'w hanghenion eu hunain drwy Hwb+, a dim ond yr ysgolion a cholegau eu hunain fydd yn medru cael mynediad i'r rhan yma.
'Gweddnewid'
Cyn ymweld ag un o ysgolion peilot y cynllun, Ysgol Pencae yn Llandaf, Caerdydd, dywedodd Mr Andrews bod hwn yn "gyfle cyffrous i ysgolion weddnewid y ffordd maen nhw'n addysgu disgyblion ac yn ymwneud â nhw".
"Bydd yn chwarae rhan allweddol gan helpu ysgolion i rannu gwybodaeth gyda rhieni a'u cynnwys yn addysg eu plentyn, perthynas hollbwysig sydd, fel rydyn ni'n gwybod, yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran canlyniadau dysgwyr."
Mae Hwb yn cael ei adnoddau oddi wrth Learning Possibilities, cwmni sydd â hanes o greu a gweithredu dulliau e-ddysgu mewn llawer o wledydd a diwylliannau, ac mae wedi datblygu cyfoeth o brofiad ac arbenigedd yn y maes.
'Gwahaniaeth gwirioneddol'
"Mae hwn yn brosiect mawr ac rydyn ni'n ei gyflwyno un cam ar y tro, gan ymgynghori â phob rhanddeiliaid, gan gynnwys colegau addysg bellach a darparwyr eraill, drwy gydol y broses hon," ychwanegodd Mr Andrews.
"Ein nod yw sicrhau bod pob dysgwr 3-19 oed yng Nghymru yn cael yr hawl i ddefnyddio Hwb erbyn Mehefin 2015.
"Dwi'n hyderus y bydd Hwb yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ganlyniadau addysg pob dysgwr 3-19 oed ac y daw'n blatfform dysgu o'r radd flaenaf i Gymru."
Mae disgwyl i Mr Andrews weithredu nifer o argymhellion eraill gan y grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddulliau Addysgu Digidol yn yr Ystafell Ddosbarth, gan gynnwys:
Creu Casgliad Digidol Cenedlaethol a fydd yn cynnwys storfa ar gyfer miloedd o adnoddau'n ymwneud â'r cwricwlwm ac arferion da y gall athrawon a dysgwyr eu llwytho, eu rhannu a'u defnyddio;
Annog defnyddio iTunes U er mwyn arddangos yr adnoddau a'r gweithgareddau addysgol gorau sydd i'w cael yng Nghymru;
Sefydlu tîm o Arweinwyr Digidol o blith yr ymarferwyr gorau sy'n defnyddio technoleg ddigidol yn yr ystafell ddosbarth;
Cynnig datblygiad proffesiynol ychwanegol i athrawon a staff eraill mewn ysgolion er mwyn cefnogi'r gwaith o addysgu cyfrifiadureg a thechnoleg gwybodaeth, gan adeiladu ar y brwdfrydedd sydd i'w weld o'r newydd yn sgil nwyddau megis y Raspberry Pi a'r Dot Net Gadgeteer er mwyn annog pobl ifanc i astudio a gweithio yn y dyfodol ym maes cyfrifiadureg;
Noddi Digwyddiad Digidol Cenedlaethol er mwyn codi proffil technoleg ddigidol mewn addysg, a thynnu sylw at lwyddiant Cymru yn y maes hwn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2012