Galw ar nyrsys di-hid i adael

  • Cyhoeddwyd
Elderly patient in hospital corridorFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Academi Nyrsio Cymru bod angen i'r GIG gydnabod bod y claf arferol yn berson hŷn bellach

Mae un o nyrsys mwyaf blaenllaw Cymru wedi galw am "newid diwylliant" yn y modd y mae ei chydweithwyr yn gofalu am gleifion hŷn yn dilyn beirniadaeth gan Aelod Seneddol wedi marwolaeth ei gŵr.

Dywedodd Lorraine Morgan, llywydd Academi Nyrsio Cymru, y dylai'r rhai sydd ddim yn dangos trugaredd wrth ofalu am gleifion adael y proffesiwn.

Roedd yn siarad wedi i Ann Clwyd AS gwyno am "ddifaterwch a dirmyg" rhai nyrsys.

Ychwanegodd Ms Morgan bod rhaid i'r proffesiwn gyfadde' camgymeriadau fel y gall gwersi gael eu dysgu.

Dywedodd wrth BBC Cymru ei bod yn teimlo cywilydd a thristwch wrth glywed hanes Ms Clwyd o'r gofal a gafodd ei diweddar ŵr Owen Roberts yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd.

Dagrau

Roedd AS Cwm Cynon yn ei dagrau wrth ddisgrifio'r "oerni, difaterwch a dirmyg" rhai o'r nyrsys a fu'n gofalu am ei gŵr.

Dywedodd Ms Morgan, nyrs sydd â dros 40 mlynedd o brofiad, bod hynny'n ei hatgoffa o'r gofal gafodd ei modryb flynyddoedd yn ôl.

"Ein cyfrifoldeb ni yw delio gyda hyn," meddai, "a'n cyfrifoldeb yw newid pethau.

"Rhaid i ni berswadio pobl i wneud hyn yn iawn. Rhaid i ni gyfadde' a dweud ein bod â chywilydd o hyn. Mater o agwedd yw hyn, a chefnogi nyrsys i ymarfer y gwerthoedd y maen nhw wedi ei dysgu.

"Rhaid annog pobl i fod yn fwy trugarog nag ydyn nhw mewn gwirionedd, ond rhaid cael hynny y tu mewn i chi i ddechrau.

"Os nad yw hynny'n bodoli, yna dydw i ddim yn credu y dylech chi fod yn gweithio yn y proffesiwn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ann Clwyd bod y gofal gafodd ei gŵr wedi rhoi hunllefau iddi

'Newid diwylliant'

Awgrymodd Ms Morgan hefyd nad oedd rhaglenni addysg ac ymarfer nyrsys yn iawn i ofalu am bobl hŷn.

Daw ei sylwadau wrth i Academi Nyrsio Cymru gyhoeddi datganiad o'u safbwynt am ofal pobl hŷn - cyfres o argymhellion i sicrhau bod yr henoed yn cael gwell gofal o fewn y GIG.

Mae'n galw am "newid diwylliant o safbwynt arweiniad ac ymarfer nyrsio mewn perthynas â phobl hŷn".

Dywed y datganiad bod angen i'r GIG a'i staff gydnabod bod y claf arferol bellach yn berson hŷn, a bod angen cynnwys hynny yn strategaeth Cymru wrth addysgu nyrsys.

Ond mae'r datganiad hefyd yn dweud bod angen digon o staff mewn ysbytai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cydnabod bod angen mwy o waith i sicrhau bod pob claf yn derbyn gofal o safon uchel.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Ysbyty'r Brifysgol ei fod yn cydnabod difrifoldeb pryderon Mrs Clwyd, ac na fyddai'n fodlon diodde' gofal gwael.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol