AS yn beirniadu gofal nyrsys

  • Cyhoeddwyd
Ann Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Ann Clwyd: Yn anfodlon ar y gofal

Mae AS Cwm Cynon, Ann Clwyd, wedi beirniadu'r gofal a roddwyd i'w ddiweddar ŵr gan nyrsys Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Dywedodd ei bod wedi gweld staff yn ymddwyn yn "ddirmygus ac yn ddifater".

Bu farw Owen Roberts o niwmonia ychydig o wythnosau'n ôl.

Ar raglen Radio 4, World at One, dywedodd yr As fod ei gŵr wedi dweud wrthi ei fod yn teimlo'n oer.

"Doedd ganddo ddim dillad drosto, ac roedd dwy gynfas anaddas arno ... roedd ei draed y tu allan ac roedd o'n oer iawn. Mi wnes i roi tywel drosto.

"Roedd o dan deimlad yn gwbl ymwybodol o'i sefyllfa ac er nad oedd o'n gallu siarad oherwydd masg ocsigen mi wnaeth o'n gwbl amlwg ei fod am ddod adra'.

"Oriau wedyn bu farw.

"Rwy'n teimlo go iawn iddo farw o oerfel oherwydd pobl nad oedd wedi dangos eu bod yn poeni."

Dywedodd iddi ond gweld nyrsys ar rownd ward unwaith rhwng 2.30pm a 10.30pm.

Pan ofynnodd i nyrs yn y coridor pam nad oedd ei gŵr mewn uned gofal dwys yr ateb oedd bod llawer mewn cyflwr gwaeth.

'Cydymdeimlad'

Roedd Ms Clwyd mewn dagrau wrth ddisgrifio'r profiad. Dywedodd ei bod yn parhau i gael hunllefau am y profiad ac yn ei chael yn anodd siarad am beth ddigwyddodd.

Dywedodd iddi gwyno wrth yr ysbyty.

Ychwanegodd: "Ddylai neb farw o dan yr amgylchiadau y bu farw fy ngŵr i."

Mae Ruth Walker, un o gyfarwyddwr yr Ysbyty Athrofaol, wedi dweud: "Hoffwn i gyfleu ein cydymdeimlad dwys â Ms Clwyd.

"Rydym yn gwybod pa mor anodd yw hi i aelodau teulu godi pryderon am safon gofal tra hefyd yn ceisio dygymod â cholled.

"Rydym yn trin achosion o'r fath fel rhai difrifol iawn."

Ychwanegodd eu bod yn cydnabod pa mor ddifrifol oedd y pryderon.

"Byddwn yn croesawu'r cyfle i gwrdd â hi mor fuan â phosib i drafod ei phryderon yn fanwl fel bod cynnal ymchwiliad trwyadl.

"Ni fyddwn yn goddef gofal gwael a dyna pam ei bod hi'n bwysig fod ymchwiliad i bob achos o'r fath er mwyn i ni allu codi safon a rhoi i gleifion a'u teuluoedd y gofal angenrheidiol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol