Brailsford yw hyfforddwr y flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Dave BrailsfordFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r ail dro i Dave Brailsford gipio gwobr hyfforddwr y flwyddyn

Cafodd Dave Brailsford ei enwi fel hyfforddwr y flwyddyn yn noson wobrwyo Personoliaeth Chwaraeon y BBC am 2012.

Cafodd yr hyffoddwr 48 oed a fagwyd yn Neiniolen, Gwynedd, ei anrhydeddu am arwain tîm seiclo Prydain i wyth medal aur yn y Gemau Olympaidd yn Llundain i ychwanegu at yr wyth a enillwyd yn Beijing yn 2008.

Mae hefyd yn ffigwr blaenllaw yn nhîm seiclo Sky wrth iddyn nhw ddathlu buddugoliaeth yn y Tour De France wedi i Bradley Wiggins ennill yno.

Brailsford oedd hyfforddwr y flwyddyn yn 2008 hefyd, a dywedodd:

"Mae anrhydedd enfawr i gael y wobr yma ar ôl yr haf anhygoel o chwaraeon.

"Rwy'n lwcus gan mai fi sy'n cael y wobr ond mae yna dîm gwych y tu ôl i mi. Mae gennym dimau gwych yn Team Sky a Seiclo Prydain."

Mae Brailsford wedi goruchwylio tîm a enillodd 30 o fedalau - 18 aur - gan lwyddo i dynnu'r gorau o gymeriadau fel Wiggins, Syr Chris Hoy a Victoria Pendleton.

Eisoes mae Brailsford wedi derbyn cynigion gan chwaraeon a busnesau eraill, ond dywedodd ei fod yn awyddus i arwain tîm seiclo Prydain i'r Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro yn 2016.

Cafodd ei eni yn Derby cyn symud i Ddeiniolen, ac yno fe aeth i'r ysgol gyda chyn bêl-droediwr Cymru, Malcolm Allen.