Data yn rhoi 'darlun clir' o berfformiad ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Bwrdd gwynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae canlyniadau TGAU, presenoldeb disgyblion a'r nifer sy'n derbyn cinio am ddim yn cael eu hystyried

Mae bandiau perfformiad ysgolion uwchradd Cymru wedi cael eu cyhoeddi am yr ail flwyddyn yn olynol, wedi asesiadau gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r system yn rhannu ysgolion yn bum band ar sail eu perfformiad - o Fand 1, ysgolion sy'n perfformio'n dda, i ysgolion Band 5, sydd angen gwelliannau.

Roedd yr ysgolion yn cael eu mesur yn ôl cyfres o ffactorau dros y tair blynedd ddiwethaf, yn cynnwys canlyniadau TGAU, presenoldeb disgyblion, a nifer y disgyblion sy'n derbyn cinio am ddim.

Cafodd cyfanswm o 219 o ysgolion uwchradd eu bandio.

Mae'r data a gyhoeddwyd ddydd Mawrth yn datgelu bod 72 o ysgolion wedi symud i fyny o leia' un band, tra bod 71 o ysgolion wedi symud i lawr o leia' un band.

Arhosodd 75 o ysgolion yn yr un band.

Roedd yna un ysgol na chafodd ei gosod mewn band y llynedd am ei bod yn newydd.

'Herio ysgolion'

Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau:

"Mae'r data trwyadl a ryddhawyd yn rhoi darlun clir i ni ac i rieni am sut mae ein hysgolion yn perfformio ac mae'n rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnon ni i herio ysgolion nad ydynt yn cyrraedd y safonau ar gyfer ein pobl ifanc yng Nghymru.

"Mae'n galondid gweld bod yr ysgolion oedd ym Mandiau 4 a 5 y llynedd yn gwneud cynnydd gwirioneddol o ran gwella canran y disgyblion sy'n cyflawni Lefel 2 (graddau A*-C TGAU), gan gynnwys Cymraeg iaith gyntaf / Saesneg a mathemateg.

"Ym Mand 4 rydyn ni wedi gweld y ganran yn codi o 41.7% i 46.5%, ac ym Mand 5 rydyn ni wedi gweld y ganran yn codi o 36% i 41.8%."

Ond mae'r drefn wedi ei feirniadau gan y Ceidwadwyr.

Dywedodd Angela Burns AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar Addysg:

"Mae blwyddyn ers i'r drefn ddod i rym, ac eto mae'n parhau yn niwlog a dryslyd a heb fod o gymorth.

"Mae Ceidwadwyr Cymru yn credu y dylai rhieni fod a mwy o hawl i gael gwybodaeth am berfformiad ysgolion.

"Ond dyw hyn ddim yn bosib drwy ddefnyddio 12 o fesurau cyfartaledd, gan gynnwys ystadegau am ginio ysgol rhad."

Galwodd am system "sy'n adlewyrchu yn fwy cywir safonau academaidd ein hysgolion, ond sydd ddim o reidrwydd yn digalonni athrawon."

Mae undebau'r athrawon yn parhau yn llugoer neu'n negyddol i'r gyfundrefn newydd.

Dywedodd llefarydd ar ran undeb UCAC fod agne i Lywodraeth Cymru "ail-edrych ar y system yn ei chyfanrwydd, ac i beidio symud ymlaen â'i chynlluniau ar gyfer bandio cynradd."

Maen nhw hefyd yn dweud fod rhai o'r newidiadau yn ymddangos yn "fympwyol."

"Rydym ni wedi dadlau ers y cychwyn nad yw'n synhwyrol i geisio distyllu data cymhleth i un ffigwr moel. Mae'r system bandio'n troi data call a synhwyrol mewn i ddata mympwyol a chamarweiniol.

Yn ôl y llywodraeth, mae 61 o'r 79 ysgol oedd ym mandiau 4 a 5 y tro diwetha' wedi gweld cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n cyflawni Lefel 2 mewn Cymraeg iaith gyntaf, Saesneg a mathemateg.

"Dwi wedi gwneud ymrwymiad clir i godi safonau a lefel perfformiad mewn ysgolion yng Nghymru, gwella lefelau llythrennedd a rhifedd, a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol," meddai Mr Andrews.

Ychwanegodd fod bandio yn hollbwysig er mwyn ceisio gwella ysgolion yng Nghymru a bod y llywodraeth wedi ymrwymo i ryddhau'r data perfformiad pob blwyddyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol