Bandio: Ysgol yn gostwng o 1 i 4

  • Cyhoeddwyd

Mae'r ysgol ddaeth ar frig y system bandio newydd y llynedd wedi gostwng i un o'r bandiau isaf - ond mae'r prif athro yn holi cwestiynau am gyfundrefn sy'n "caniatáu newidiadau mor sylweddol o un flwyddyn i'r llall."

Pan gafodd y system ei gyflwyno yn 2011 roedd Ysgol Tryfan Bangor, Gwynedd, yn Band 1, ond mae nawr yn Band 4.

Mae'r system gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn rhannu ysgolion yn bum band ar sail eu perfformiad - o Fand 1, ysgolion sy'n perfformio'n dda, i ysgolion Band 5, sydd angen gwelliannau.

Ond mae pennaeth Ysgol Tryfan wedi codi cwestiynau ynglŷn â system sy'n caniatáu newidiadau mor sylweddol o un flwyddyn i'r llall.

"Roedd canlyniadau'r llynedd yn rhai hynod gan olygu fod yr ysgol ar frig y sgôr bandio," meddai Gwyn Tudur.

"Mae'r gostyngiad eleni yn siomedig, ond mae rhywun yn cwestiynu system sy'n caniatáu newid mor fawr.

"Pe bai ysgol wedi cael blwyddyn hynod yn 2011, maen nhw'n cael eu cosbi yn 2012, er bod yr ysgol yn agos i'r chwartel uchaf yn ôl ffon mesur bwysicaf Estyn."

Dywedodd gohebydd addysg BBC Cymru Nicola Smith fod sgôr Ysgol Tryfan wedi gostwng pe bai chi'n ei ystyried yng nghyd-destun ysgolion eraill, ond dyw hynny ddim yn golygu fod yr ysgol wedi perfformio fawr gwaeth nag yn 2011.

Ysgol arall wnaeth ostwng o Band 1 yw Ysgol Uwchradd Treorci.

Er i'r ysgol lwyddo i sicrhau y gradd uchaf (rhagorol) ym mhob un o'r 15 maes mewn arolwg Estyn, fe ostyngodd yr ysgoli Band 3.

Dywedodd Angell Jones, prif athro ysgol Trecori: "Dan ni'n falch iawn o'r adroddiad rhagorol Estyn wrth gwrs a bach yn siomedig ein bod ni yn mand 3 oherwydd daeth tim Estyn mewn a gweld yr ysgol yn ei gwir ffurf ac adrodd nol bod bron pob agwedd o'r ysgol yn rhagorol a dan ni'n cytuno a hynny wrth gwrs.

"Nethon ni roi'n sylwadau ni ymlaen ac roedd Estyn yn cydfynd a nhw.

"Wedi dweud hynny does dim un system yn berffaith.... Nes i ddweud hyn pan oeddwn ym Mand 1"

Yr ysgol ar frig y bandiau eleni yw Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, yn Abertawe.

Fe fydd Newyddion Arlein yn cyhoeddi manylion y bandiau yn ddiweddarach.

Hwn yw'r ail flwyddyn i'r bandiau gael eu defnyddio.