Lluniau o ailwampio Castell Aberteifi
- Cyhoeddwyd

Mae Ymddiriedolaeth Cadwgan wedi derbyn £12 miliwn o grantiau i ailwampio Castell Aberteifi

Maen nhw'n bwriadu agor gwesty, tŷ caban a bwyty yn yr adeiladau o fewn y ddau acer o dir ac felly creu 20 o swyddi

Bydd hefyd arddangosfeydd ar yr Eisteddfod gyntaf erioed a chynhaliwyd yn y castell yn 1176, hanes tref Aberteifi a hefyd hanes Miss Wood, cyn-berchennog y safle

Maen nhw'n gobeithio denu dros 33,000 o ymwelwyr y flwyddyn i’r castell ac i’r dref

Adeiladwyd castell cerrig ar y safle am y tro gyntaf gan Rhys ap Gruffydd yn 1171 ac mae o wedi cael ei chipio a’i gwerthu sawl gwaith ers hynny

Hyd yn hyn, mae adeiladwyr wedi gweithio i dynnu’r pileri haearn gweladwy oddi ar waliau’r safle a chael gwared â gwreiddiau’r coed oedd yn achosi trafferthion