Rhybudd llifogydd wrth i law trwm ledu ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi 11 rhybudd am lifogydd posib wrth i law trwm barhau i ddisgyn.
Mae rhagolygon yn rhagweld y bydd cymaint â 40mm (1.5 modfedd) o law yn gallu disgyn yn ystod y diwrnod.
Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd oren ar gyfer y rhan fwyaf o dde Cymru a de Phowys tan ddiwedd y prynhawn.
Caiff gyrwyr eu hannog i fod yn hynod ofalus gyda dŵr ar wyneb ffyrdd yn gwneud yr amgylchiadau yn rhai anodd mewn rhai llefydd.
Fe wnaeth yr asiantaeth annog pobl i fod yn wyliadwrus am achosion o lifogydd yn enwedig yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.
"Mae swyddogion yn yr ardaloedd ar hyn o bryd yn gwneud yn siŵr bod yr afonydd yn glir a bod yr amddiffynfeydd yn eu lle ac yn gweithio," meddai llefarydd.
"Fe fydd y glaw trwm yn lledu ar draws y rhan fwyaf o Gymru yn ystod y dydd, gyda'r tywydd gwaetha yn y de ddwyrain."
Mae holl wybodaeth am y rhybuddion ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd, dolen allanol.