Penfro: Penderfyniad yn 2013
- Cyhoeddwyd
Dywed Llywodraeth Cymru y byddant yn penderfynu pwy fydd yn gyfrifol am redeg gwasanaethau diogelu plant Sir Benfro yn y flwyddyn newydd.
Daw hyn yn sgil dau adroddiad beirniadol o wasanaethau diogelu plant y sir yr wythnos hon, gan Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod am weld gwelliant tymor hir yng ngwasanaethau'r cyngor.
"Fe fyddwn y cwblhau ein trefniadau terfynol mor fuan â phosib, ac yn sicrhau bod unrhyw ymateb arall sydd ei angen yn digwydd ar unwaith," medd y llefarydd.
"Fe fydd corff llywodraethol Cyngor Penfro yn parhau mewn grym am yr wythnosau nesa, er mwyn sicrhau ein cefnogaeth i'r dull o wella diogelwch plant yn y sir."
Ddydd Llun cyhoeddodd Estyn adroddiad oedd yn dweud fod gwasanaethau addysg Cyngor Sir Penfro ar gyfer plant a phobl ifanc yn "anfoddhaol".
Yn ôl adroddiad arall gan Swyddfa Archwilio Cymru ni wnaed "digon o gynnydd i roi trefniadau cadarn ar waith i ddiogelu plant".