Diogelu plant: Cyngor o dan y lach

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Tad yn dweud fod lluniau DVD yn dangos ei fab yn cael ei gloi mewn ystafell dywyll yn 2009

Mae gwasanaethau addysg Cyngor Sir Penfro ar gyfer plant a phobl ifanc yn "anfoddhaol" a dylid rhoi'r awdurdod yn y categori y mae angen gweithredu mesurau arbennig ynddo.

Dyna ddywed y corff arolygu Estyn mewn adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Llun.

Mae adroddiad arall, gan Swyddfa Archwilio Cymru, hefyd yn feirniadol o'r cyngor.

Cafodd panel o arbenigwyr eu gyrru gan Lywodraeth Cymru i oruchwylio'r awdurdod y llynedd wedi adroddiad i honiadau o gam-drin plant.

Roedd honiadau wedi dod i'r amlwg o blant yn cael eu rhoi dan glo mewn ystafelloedd ac o ddwylo un plentyn yn cael ei glymu gan athro.

Dydd Llun dywedodd y cyngor bod 'na faterion pwysig y maen nhw wedi ymrwymo i fynd i'r afael â nhw a dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried yr adroddiadau yn ofalus.

Mae adroddiad Estyn yn nodi diffygion pwysig yn arweinyddiaeth gwasanaethau addysg yr awdurdod.

'Rhy araf'

Dywed fod arweinwyr corfforaethol ac uwch aelodau etholedig wedi bod yn "rhy araf yn adnabod materion allweddol mewn diogelu, ac yn rhy araf yn newid diwylliant ac yn gwella'r gwasanaethau addysg".

Dywed yr adroddiad hefyd nad yw trefniadau'r awdurdod ar gyfer cynorthwyo a herio ysgolion yn ddigon cadarn.

Yn 2009 daeth honiadau i'r amlwg bod plant yn cael eu cloi mewn ystafell 'seibiant' yn Neyland.

Mae Andrew Parry wedi rhoi DVD i BBC Cymru sy'n dangos, meddai, ei fab Aeddan, oedd yn 12 oed ar y pryd, yn cael ei wthio i ystafell 'seibiant' heb ddim ffenestri.

Yn ôl Mr Parry mae'r lluniau yn dangos ei fab yn cael ei gloi yn yr ystafell am 13 munud.

Dywed iddo gael y DVD gan y cyngor wedi'r ymchwiliad i ddigwyddiadau o'r fath.

Yn ôl Cyngor Sir Penfro dyw'r ystafell 'seibiant' oedd yn Neyland ddim yn bodoli rhagor.

Trefn gadarn

Yn gynharach eleni fe anfonwyd canllawiau i bob ysgol ynglŷn â'r polisïau y dylid eu dilyn pan fod angen cyfnod tawelu ar ddisgyblion.

O ran y ddau adroddiad a gafodd eu cyhoeddi ddydd Llun, ymunodd arolygwyr o Swyddfa Archwilio Cymru ac o Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) â thîm arolygu Estyn.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cadarnhau iddo ganfod na wnaed digon o gynnydd i roi trefniadau cadarn ar waith i ddiogelu plant.

Yn ôl y Swyddfa Archwilio, roedd y Cyngor, yn bennaf o ganlyniad i waith adolygu allanol, yn fwy ymwybodol o faterion diogelu ac roedd wedi gwneud rhai newidiadau cadarnhaol.

Fodd bynnag, daeth yr adroddiad i'r casgliad bod y Cyngor, drwy fethu ag ymateb yn ddigon cyflym a thrwyadl, wedi methu â chyflawni ei ddyletswydd i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus.

Y canfyddiadau penodol oedd:

  • Roedd y Cyngor wedi llunio amrywiaeth o bolisïau a gweithdrefnau angenrheidiol a oedd wedi codi ymwybyddiaeth o faterion diogelu ond nid oedd wedi rhoi digon o sylw i nodi achosion sylfaenol methiannau ac ymdrin â hwy.

  • Araf fu'r Cyngor wrth ymdrin â materion ynghylch y defnydd o ystafelloedd ystyried ac nid oedd y broses o weithredu polisïau a gweithdrefnau newydd yn cael ei rheoli'n effeithiol.

  • Prin fu'r cynnydd a wnaed gan y Cyngor ers mis Ionawr 2012 o ran atgyfnerthu rôl herio a sicrhau ansawdd aelodau.

'Mwy o gymorth'

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd panel o arbenigwyr eu gyrru i'r awdurdod y llynedd yn dilyn adroddiad i honiadau o gam-drin plant

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: "Rwy'n ymwybodol o arwyddion diweddar o welliant a sylwadau cadarnhaol Bwrdd Cynghori'r Gweinidog.

"Eto i gyd, ar sail fy nghanfyddiadau i a rhai Estyn, a gyhoeddwyd heddiw hefyd, ni allaf roi unrhyw sicrwydd bod y newidiadau hyn yn debygol o arwain at y gwelliannau sydd eu hangen.

"O ystyried y gwaith sydd ei angen i sicrhau bod trefniadau diogelu effeithiol yn cael eu gweithredu'n effeithiol, credaf fod angen i'r Cyngor gael mwy o gymorth i'w helpu i wneud newidiadau.

"Er mwyn ei helpu i wneud y gwelliannau angenrheidiol, rwyf wedi argymell y dylai Gweinidogion Cymru gynorthwyo'r Cyngor, drwy arfer eu pŵer o dan adran 28 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009".

Roedd arolygiad Estyn yn dilyn arolygiad tebyg o wasanaethau addysg yr awdurdod lleol ar gyfer plant a phobl ifanc a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2011, a argymhellodd y dylid rhoi Sir Benfro yn y categori "angen gwelliant sylweddol", oherwydd diffygion ym meysydd pwysig diogelu a llywodraethu corfforaethol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol