Tywydd: Saith rhybudd llifogydd

  • Cyhoeddwyd
RainFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi cyhoeddi saith rhybudd llifogydd yng Nghymru - Pentref Ewenni (Afon Ewenni), Afon Solfach, Afon Ritec yn Ninbych-y-pysgod, y Ddyfrdwy Isaf rhwng Llangollen a Chaer, Afon Elài (mewn dau leoliad) a Dyffryn Dyfi i'r gogledd o Fachynlleth.

Mae'r tywydd gwlyb yn achosi trafferthion i deithwyr drwy gydol ddydd Sadwrn, gyda ffyrdd ar gau mewn sawl man.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am lifogydd posib yn Ne Cymru ddydd Sadwrn ac i mewn i fore Sul, gan ddweud wrth bobl am baratoi am lifogydd lleol.

Dywedodd gwasanaeth Traffig Cymru bod nifer o ffyrdd wedi cau ddydd Sadwrn, gan gynnwys:-

  • A474 Ffordd Castell-nedd i'r ddau gyfeiriad rhwng yr A48 (Old Road) a Ffordd Tyla;

  • M4 - Dŵr ar wyneb y ffordd rhwng cyffordd 29 (M48) a chyffordd 30 (Porth Caerdydd) ond mae damwain wedi ychwanegu at y trafferthion yma hefyd;

  • M4 - Dŵr ar wyneb y ffordd yn golygu amodau anodd rhwng cyffordd 30 (Porth Caerdydd) a chyffordd 49 (Pont Abraham) gyda chyfyngu ar gyflymder i 50 m.y.a.;

  • A40 - Llifogydd ar y ffordd rhwng B4238 (Llanboidy) a'r A4066 (San Clêr);

  • A478 - Llifogydd ger yr A40 (Penblewyn);

  • A470 - traffic yn araf oherwydd llifogydd ar gyfnewidfa Gabalfa, ac mae angen gofal arbennig yma.

Mae nifer o ffyrdd lleol hefyd wedi eu cau oherwydd llifogydd, yn enwedig yn ardaloedd Sir Fynwy, Abertawe a Bro Morgannwg.

Paratoi

Wrth gyhoeddi'r rhybuddion, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd:

"Bydd band arall o law ynghyd â gwyntoedd cryfion yn symud i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ar draws de-orllewin Cymru a Lloegr gydol ddydd Sadwrn ac yn gynnar ddydd Sul.

"Gan fod y tir eisoes yn ddirlawn, dylai'r cyhoedd baratoi am lifogydd posib yn lleol o ganlyniad i ddŵr ar yr wyneb ac o afonydd.

"Gallai hyn arwain at drafferthion wrth deithio, ond mae'r tebygrwydd am drafferthion difrifol yn isel."

Trenau

Mae llifogydd hefyd wedi amharu ar y gwasanaeth trenau ar draws de Cymru.

Mae cwmni Trenau Arriva Cymru yn rhybuddio teithwyr bod y tywydd yn effeithio ar y rhwydwaith cyfan, gyda thrafferthion gyda'r signalau yn blocio leiniau Caerdydd i gyd.

Mewn datganiad brynhawn Sadwrn dywedodd y cwmni bod y trafferthion gyda'r signalau wedi eu datrys a bod trenau'n dechrau symud yn ardal Caerdydd bellach.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod eu criwiau nhw yn brysur iawn yn ardaloedd Bro Morgannwg, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol