Blwyddyn well i'r economi?
- Cyhoeddwyd
Mae corff sy'n cynrychioli arweinwyr busnes yn dweud bod yna arwyddion y gallai 2013 fod yn flwyddyn well i'r economi.
Daw sylw Sefydliad y Cyfarwyddwyr yn sgil arolwg barn sy'n awgrymu bod arweinwyr busnes yn hyderus am y dyfodol.
Ond mae yna ansicrwydd o hyd mewn rhai sectorau.
Dywedodd Cymdeithas Adeiladu Nationwide fod prisiau tai wedi gostwng 1% yn 2012 ac maen nhw'n disgwyl darlun tebyg yn 2013.
Yn ôl Owain Davies o gwmni Amcanu ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, ac aelod o fwrdd CBI Cymru, mae yna le i fod yn optimistaidd.
"Gobeithio y bydd 2012 yn gweld yr economi yn symud yn ei blaen, gan roi sefydlogrwydd i ni.
'Ansicrwydd'
"Yr ansicrwydd yw beth sy'n anodd i ni."
Un arall sy'n obeithiol yw Gari Wyn, perchennog Cwmni Ceir Cymru ym Methel, Caernarfon.
"Rydan ni eisoes wedi dechrau dros y 'Dolig ac wedi cael busnes sylweddol ac rydan ni'n ffyddiog iawn iawn i'r flwyddyn newydd."
Dywedodd Rhian Dafydd, perchennog siopau Ji-binc a Jac-do yn Aberaeron, ei bod yn gobeithio am flwyddyn ychydig yn well yn 2013.
"Ond y gwir amdani yw dwi ddim yn meddwl ei bod hi am fod lawer iawn yn well.
"Mae angen ail godi hyder y cyhoedd a dweud ei bod hi'n iawn i wario 'chydig bach o bres."
Newidiadau
Mae rhai economegwyr fel Ken Richards o'r farn fod angen newidiadau cyn bod modd sicrhau twf economaidd.
"Y broblem yw bod y dyn cyffredin yn dioddef gostyngiad i safon byw, dyw prisiau tai ddim yn codi, heblaw Llundain, ac mae hyn yn ffactor o ran hyder.
"Dwi ddim yn gweld o ble mae tyfiant yn mynd i ddod oherwydd bod y llywodraeth yn torri'n ôl ar eu gwariant a thorri'n ôl ar fudd-daliadau cymdeithasol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2013