Lefel diweithdra i lawr 15,000

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Canolfan Di-waithFfynhonnell y llun, PA

Bu gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sydd allan o waith yng Nghymru a gweddill y DU.

Yn y tri mis hyd at Hydref, roedd 15,000 yn llai o bobl yn ddiwaith yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Dangosodd y ffigyrau bod 117,000 yn ddiwaith yn ystod y cyfnod dan sylw, sef 7.9% o'r boblogaeth oed gweithio.

Y ffigwr ar gyfer yr un cyfnod yn 2011 oedd 9.2%.

Ar draws y DU, roedd nifer y diwaith i lawr 82,000 rhwng Awst a Hydref, a bellach mae 2.51 miliwn o bobl heb waith.

Mae diweithdra ymysg yr ifanc dros yr un cyfnod wedi lleihau yn ogystal.

Ymateb

Wrth ymateb i'r ffigyrau, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones AS:

"Mae'r ffigyrau diweddaraf yn tanlinellu pwysigrwydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cydweithio gyda llywodraeth y DU i wneud y gorau o'r potensial am dwf economaidd yng Nghymru.

"Dyma'r ail fis yn olynol lle mae diweithdra ymysg yr ifanc wedi lleihau yng Nghymru, a 0.1% yn llai yn hawlio budd-dal, ac mae hynny hefyd i'w groesawu.

"Ond er bod y ffigyrau yn symudiad i'r cyfeiriad cywir, mae llawer o waith eto i'w wneud.

"Bydd y mesurau a gyhoeddwyd yn natganiad yr hydref yr wythnos ddiwethaf yn gymorth i Gymru a gweddill y DU i gadw ar y llwybr tuag at adfywiad."

Roedd llefarydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad ar Fusnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn canmol llywodraeth y DU am y ffigyrau.

Dywedodd Nick Ramsay AC: "Mae'r glymblaid sy'n cael ei harwain gan y Ceidwadwyr wedi gwneud penderfyniadau anodd i reoli dyled y wlad ac adfer hyder yn economi Prydain.

"Mae'n bwysig bod Llywodraeth Lafur Cymru yn chwarae ei ran drwy wneud penderfyniadau cyflym i roi sicrwydd a darparu amgylchiadau lle gall busnesau bach a chanolig ffynnu."