Budd-dal Plant: Newidiadau yn dod i rym
- Cyhoeddwyd
Bydd miloedd o deuluoedd yn colli budd-dal plant o ddydd Llun, 7 Ionawr ymlaen.
Bydd y newidiadau'n effeithio ar dros filiwn o deuluoedd, gyda theuluoedd lle mae un rhiant yn ennill dros £60,000 yn colli'r budd-dal yn gyfan gwbl, a theuluoedd lle mae un rhiant yn ennill rhwng £50,000 a £60,000 yn colli rhan ohono.
Mae Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi ysgrifennu at 20,630 o bobl yng Nghymru i'w hysbysu am y newidiadau, sy'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth San Steffan er mwyn ceisio arbed £1.5 biliwn y flwyddyn.
Yn ôl y Prif Weinidog David Cameron, mae'r newidiadau yn rhai teg, ac meddai: "Dydw i ddim yn dweud fod y bobl yma yn gyfoethog, ond rwy'n meddwl ei bod hi'n iawn eu bod yn gwneud cyfraniad."
'Cymhlethdod'
Ond dywedodd Canghellor yr Wrthblaid, Ed Balls, fod y newidiadau yn smonach, gan ddadlau y dylid codi trethi ar y cyfoethocaf yn hytrach na chyflwyno newidiadau sy'n effeithio ar bobl ar incwm canolig.
Mae dros 200,000 o bobl eisoes wedi dewis peidio derbyn y budd-dal, ond bydd rhaid i'r gweddill sy'n ennill mwy na'r trothwy gwblhau ffurflenni treth hunanasesiad.
Dywed ymgyrchwyr fod hyn wedi creu cymhlethdod yn y system.
Maen nhw hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith fod teuluoedd ble mae dau riant yn ennill £49,000 yn cadw'r budd-dâl, tra bod teuluoedd ble mae un yn ennill £51,000, gyda'r rhiant arall o bosib wedi dewis peidio gweithio, yn colli rhan ohono.
Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys y byddai rhoi'r gorau i dalu budd-dal plant ar sail incwm cyfansawdd y teulu yn golygu profion modd ar gyfer wyth miliwn o deuluoedd sy'n derbyn y budd-dal, a bod y drefn hon yn symlach ar gyfer mwyafrif helaeth y teuluoedd hynny.
Mae budd-dal plant yn £20.30 yr wythnos ar gyfer y plentyn cyntaf, a £13.40 ar gyfer pob plentyn ychwanegol.
Yn siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd yr aelod seneddol Ceidwadol Guto Bebb iddo fod yn anhapus gyda'r newidiadau gwreiddiol a gynigiwyd nôl yn 2010, ond ei fod yn falch fod y Canghellor wedi a diwygio ei gynllun ers hynny, gan godi'r trothwy a thynnu'r budd-dâl yn raddol ar gyfer pobl sy'n ennill rhwng £50,000 a £60,0000.
Er ei fod dal yn anfodlon mai incwm unigolion sy'n cael ei ystyried yn hytrach nac incwm teuluol, dywedodd Mr Bebb nad oedd yn teimlo y gallai bleidleisio yn erbyn y newid hwn tra'n cefnogi lleihau a thorri mewn amryw o agweddau eraill o'r wladwriaeth les "yng nghyd-destun y mesurau eraill mae'r llywodraeth yn gymryd i fynd i'r afael â'r ddyled anferthol sydd ganddon ni fel gwlad."
Yn ôl yr aelod Llafur Nia Griffith, "Os ydych chi'n dechrau cyfyngu budd-daliadau yn ôl incwm, mae'n rhaid i chi fod yn deg... y ffaith yw... os ydych chi'n cael y system treth incwm yn deg yn y lle cynta', mae pobl sy'n ennill mwy yn talu mwy, ac wedyn rydych chi'n gallu defnyddio hyn yn lle creu mwy o broblemau ar weinyddu... achos mae e yn gymhleth iawn..."