Deifiwr wedi marw ar ôl colli cyflenwad aer ym Mhen Llŷn - cwest

Llun o Imrich MagyarFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd cwest fod offer Imrich Magyar yn "anaddas ar gyfer moroedd Prydain"

  • Cyhoeddwyd

Clywodd cwest fod deifiwr yn debygol o fod wedi marw oddi ar arfordir Pen Llŷn ar ôl i'r offer anadlu yn ei geg ddatgysylltu â'i gyflenwad aer.

Fe ddiflannodd Imrich Magyer, dyn 53 oed, tra'n deifio ar ben ei hun ym mis Tachwedd 2024 ac fe ddaeth aelod o'r cyhoedd o hyd i'w gorff 10 diwrnod yn ddiweddarach.

Fe glywodd y cwest yng Nghaernarfon fod ei offer yn "anaddas ar gyfer moroedd Prydain" a'i fod wedi cael ei drwsio drwy ddefnyddio ceblau (cable ties).

Mewn gwrandawiad brynhawn Mercher fe wnaeth y crwner gofnodi achos o farwolaeth drwy anffawd.

Roedd Imrich Magyer yn dod yn wreiddiol o Slofacia, ond roedd yn byw ger Warrington ac yn gweithio fel cynorthwyydd Adnoddau Dynol.

Dywedodd ei deulu wrth y gwrandawiad fod hobïau Mr Magyer'n cynnwys ffotograffiaeth tanddwr a deifio.

Ar 27 Tachwedd 2024, fe barciodd ei gar ym Mhorth Ysgaden ar ochr ogleddol arfordir Pen Llŷn, ac fe gafodd ei weld ar ben ei hun yn gwisgo siwt wlyb.

Daeth adroddiadau bod y dyn wedi mynd ar goll ar ôl i fwi deifio gael ei weld yn arnofio oddi ar Borth Ysgaden ger Tudweiliog.

'Offer wedi ei gadw ymlaen â cheblau'

Fe glywodd y cwest dystiolaeth gan Batholegydd y Swyddfa Gartref, Brian Rodgers, sydd hefyd yn ddeifiwr sgwba cymwys a ddywedodd fod yna bryderon ynghylch offer Mr Magyer.

"Mae'r dyluniad penodol hwn o offer yn anaddas ar gyfer deifio ym moroedd Prydain," meddai Dr Rodgers, "mae'n eithaf peryglus mewn gwirionedd".

"Gall yr offer yn y geg gael ei ddatgysylltu o'r cyflenwad aer gan gerrynt y môr, y tonnau, hyd yn oed y tonnau sy'n digwydd wrth i gwch fynd heibio.

"Dyna bron yn sicr beth sydd wedi digwydd yma."

Ychwanegodd Dr Rodgers fod yr offer yng ngheg Mr Magyer wedi'i "gadw ymlaen â cheblau a mastig adeiladwr."

Nododd y crwner, Sarah Riley, fod Mr Magyer wedi bod yn deifio ar ei ben ei hun, yn hytrach na gyda chyfaill fel yr argymhellir, ac nid oedd ganddo gyflenwad aer wrth gefn.

Aeth ymlaen i gofnodi'r casgliad fel marwolaeth drwy anffawd gan ddweud iddo foddi ar ôl colli ei gyflenwad aer.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig