Cymorth mewn cyfyngder

  • Cyhoeddwyd
tudalen app Wmff!Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Ropedd hi'n bwysog i'r elusen fod yr app ar gael yn Gymraeg a Saenseg

Helpu pobl ifanc i gael cymorth a chyngor yw bwriad app newydd sy'n cael ei lansio gan elusen Snap Cymru.

Mae Snap Cymru yn barod i helpu teuluoedd ac unigolion sydd ag anghenion addysgol arbennig neu broblemau cymdeithasol.

Mae'r app Wmff! yn un cwbl ddwyieithog.

Yn ystod y lansiad yn Yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd fe fydd Snap Cymru hefyd yn derbyn Gwobr Gwirfoddoli Jiwbilî Diemwnt a Gwobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.

Mae'r app yn cynnig cymorth a chyngor i'r bobl ifanc mewn gwahanol feysydd o fwlio i waharddiadau, mynd yn ôl i addysg neu i ddod o hyd i waith yn ogystal â hawliau pobl ifanc.

Cafodd yr elusen gymorth ariannol y Gronfa Cymdeithasol Ewrop drwy'r fenter Reach the Heights sy'n anelu at wella bywydau a chyfleoedd sydd ar gael i blant a phobl ifanc Cymru sydd ag anghenion ychwanegol, sydd mewn perygl o gael eu heithrio o gymdeithas neu sydd mewn perygl o fod yn NEET, Nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Cam pwysig

Disgrifiad,

Nia Thomas yn holi Huw Roberts, Ymddiriedolwr Snap Cymru

"Roedd hi'n bwysig ei fod yn app dwyieithog," meddai Huw Roberts, Ymddiriedolwr Snap Cymru.

"Snap Cymru yw prif elusen partneriaeth rhieni yng Nghymru ac mae gweithio drwy'r Gymraeg a'r Saesneg yn bwysig iawn o'r cychwyn cyntaf i ni."

Caiff cyhoeddi'r app ei weld fel cam pwysig wrth i'r elusen symud ymlaen a chynnig gwasanaethau yn uniongyrchol i bobl ifanc am y tro cyntaf.

Dywedodd Denise Inger, Prif Weithredwr SNAP Cymru bod Reach The Heights wedi bod yn brosiect gwych i gymryd rhan ynddo.

"O ganlyniad, rydym wedi gallu cynhyrchu Wmff! sy'n gynnyrch a fydd yn datblygu gydag amser ac y bydd yn waddol i blant a phobl ifanc Cymru o ran helpu i gefnogi'r rhai sydd ag anghenion ychwanegol a lleihau nifer y bobl ifanc sy'n dod yn NEET."

Cafodd yr app ei hun ei chynllunio a'i datblygu gan Galactig, asiantaeth ddigidol greadigol Cymru, ynghyd â chymorth pobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o'r broses ddatblygu.

Gall pobl ifanc hefyd gael gafael ar gyngor a chefnogaeth gan SNAP Cymru trwy Ffoniwch ein Llinell Gymorth 0845 120 3730.