Dim cytundeb rhwng Eos a'r BBC am daliadau darlledu caneuon

  • Cyhoeddwyd
Logo EosFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Gallai proses gymodi annibynnol ystyried yr anghydfod rhwng Eos a'r BBC

Does 'na ddim cytundeb rhwng y BBC ac Eos wedi'r trafodaethau diweddara' gyda phosibilrwydd y bydd yr anghydfod yn para am dros fis.

Ond mae'r BBC yn dweud bod yr asiantaeth hawliau darlledu Eos wedi cytuno i ystyried bod yn rhan o broses gymodi annibynnol.

Dewi "Pws" Morris yw'r diweddara' sy'n dweud na fydd yn cyfrannu at Radio Cymru tra bod yr anghydfod yn para.

Ddim yn deall

Dywedodd ei fod yn annog eraill i beidio â chyfrannu a'i fod yn credu nad oedd y BBC yn ganolog yn deall cyfraniad Radio Cymru at ddiwylliant Cymraeg.

Mae Eos, sy'n cynrychioli tua 300 o gerddorion Cymraeg, am i'r BBC wella'r cynnig ynglŷn â thaliadau i gerddorion, awduron a chyhoeddwyr.

Roedd 'na gyfarfod ddydd Gwener rhwng y BBC ac Eos drwy gyswllt fideo wedi cyfarfod wyneb yn wyneb ddydd Mawrth.

Fe wnaeth Eos gadarnhau bod y BBC wedi gwrthod y cynnig roddwyd iddyn nhw gan yr asiantaeth yn y cyfarfod hwnnw.

Yn lle defnyddio corff cymodi swyddogol mae'r gorfforaeth wedi dweud y byddai'n fwy tebygol mai person annibynnol fydd yn cynnal y broses, cyfreithiwr neu arbenigwr diwydiant.

Mae'r BBC yn cynnig talu am y broses.

Ymgynghori

Ond dywedodd Dafydd Roberts ar ran Eos y gallai fod yn fis eto cyn y bydd modd cytuno i gynnal trafodaethau cymodi.

Eglurodd fod ganddyn nhw broses ymgynghori i'w dilyn a bod rhaid cysylltu gyda'r aelodau i dderbyn mandad i gytuno i drafodaeth gymodi.

Dywedodd nad oedd yn gwybod faint o amser y byddai hyn yn ei gymryd ond gallai olygu cynnal cyfarfod cyffredinol ymhen rhyw fis.

Ychwanegodd fod y trafodaethau yn oedi oherwydd nad oedd y BBC yn barod i symud oddi wrth y cytundeb presennol o ran talu ffi cyffredinol i PRS (Performing Rights Society) am gerddoriaeth.

Mewn llythyr at staff Radio Cymru ddydd Gwener dywedodd y golygydd, Lowri Davies: "Cynhaliwyd trafodaethau pellach heddiw ac rydan ni'n falch bod Eos wedi cytuno i ystyried cynnig y BBC i ariannu proses gymodi annibynnol mewn ymdrech i ddod â'r anghydfod presennol i ben.

"Byddai hyn yn golygu penodi arbenigwr annibynnol ar y cyd i edrych ar y materion pwysig a chymhleth yma ynglŷn â gwerth y repertoire cerddoriaeth Gymraeg.

"Rydan ni'n edrych ymlaen at glywed gan Eos cyn gynted â phosib er mwyn i ni allu gweithio efo'n gilydd i ddod â'r anghydfod anodd yma i ben.

'Blaenoriaeth'

"Ein blaenoriaeth ni o hyd, wrth gwrs, ydy dod o hyd i gytundeb sy'n deg i bawb."

Gan ymateb i'r newyddion mwyaf diweddar ynglŷn â'r anghydfod rhwng y BBC ac Eos am hawliau cerddoriaeth Gymraeg dywedodd Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC dros Gymru, Elan Closs Stephens: "Rwy'n mawr obeithio er mwyn y gynulleidfa fod y ffaith fod Eos yn awr yn ystyried cynnig y BBC o broses gymodi annibynnol er mwyn ceisio datrys y mater hwn yn golygu bod gobaith y gellir dod i gytundeb mor fuan â phosibl."

Ers Ionawr 1 2013 dydi Radio Cymru ddim wedi gallu chwarae dros 30,000 o ganeuon Cymraeg.

Maen nhw hefyd wedi cwtogi oriau darlledu'r orsaf.

Mae caneuon Saesneg a cherddoriaeth glasurol ac offerynnol yn cael eu chwarae ar Radio Cymru yn y cyfamser.

Llwyddodd Eos i ddod i gytundeb serch hynny gyda S4C cyn y Nadolig.