Post Prynhawn olaf Gareth Glyn
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfnod yn hanes newyddion Radio Cymru yn dod i ben wrth i'r cyflwynydd Gareth Glyn ymddeol o'r Post Prynhawn wedi 34 mlynedd.
Dydd Gwener y bydd yn darlledu ei rifyn olaf.
Bydd Dewi Llwyd yn cymryd yr awenau bedwar diwrnod yr wythnos, a Nia Thomas yn cyflwyno ar ddydd Gwener o'r wythnos nesa' ymlaen.
Cyflwynodd Gareth Glyn y rhifyn cyntaf o'r Post Prynhawn ar Dachwedd 6 1978.
I gychwyn, roedd yn rhaid iddo gadw llygad ar ddau chwaraeydd recordiau a chynnal cwis yn ogystal â chyflwyno'r newyddion.
Roedd rhaid hefyd ymdopi â thechnoleg y cyfnod.
"Dim gwe wrth reswm a dim cyfrifiaduron," meddai.
"Dim hyd yn oed teipiaduron trydanol!
"Roedd popeth yn fecanyddol ac unrhyw gopi ar bapur carbon a dim modd o gael gwybodaeth 'mond trwy'r papurau newydd neu gyfeirlyfrau."
Roedd cysylltu â phobl mewn gwledydd tramor er mwyn eu cyfweld ar y rhaglen hefyd yn her i ymchwilydd a chynhyrchydd y rhaglen.
Ond mae nifer o lwyddiannau yn aros yn y cof.
"Dwi'n cofio yn yr 1980au pan ffrwydrodd llong ofod y Challanger a rywsut neu'i gilydd mi roeddem yn gwybod bod un o'r bobl allweddol yn NASA, oedd yn bennaeth ar adran yn ymwneud â braich robotaidd y llong ofod, yn Gymro Cymraeg," meddai.
"Er gwaethaf y cymhlethdodau o gysylltu ag America adeg yna, mi gawson ni afael arno a siarad gyda'r dyn 'ma pan roedd darnau o'r llong ofod yn llythrennol yn syrthio i'r ddaear.
"Heddiw, rydym yn derbyn hynny fel gwaith bob dydd, ond bryd hynny roedd o'n wyrthiol.
"Nid oedd pobl wedi clywed y fath beth, yn sicr ar Radio Cymru, a hynny oherwydd ein bod efo gweithwyr dyfeisgar ac ymroddgar ar y Post Prynhawn."
Arbenigwyr
Mae'r cyflwynydd yn ystyried gallu Radio Cymru i ddod o hyd i'r fath o arbenigwyr ledled y byd yn hanfodol i hygrededd yr orsaf.
"Dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig ofnadwy i bobl gofio ein bod ni fel rhwydwaith Cymraeg yn medru, nid yn unig siarad am newyddion drwy'r byd, ond hefyd siarad efo bobl drwy'r byd," meddai.
"Ac nid y bobl sy'n digwydd byw mewn gwlad, ond y rhai sy'n awdurdod yn eu maes eu hunain.
"Dwi'n gwrando ar rwydweithiau Ewropeaidd, yn enwedig rhai Ffrengig; os ydyn nhw'n holi rhywun o'r Eidal, byddant yn holi Eidalwyr a'u trosleisio.
"Ond yng Nghymru, mi wnawn ni ddod o hyd i Gymry Cymraeg sy'n siarad Eidaleg - neu hyd yn oed Eidalwyr sy'n siarad Cymraeg.
"Ychydig iawn o ieithoedd sy' mewn sefyllfa i wneud hynny, heblaw am Saesneg."
Dydi Gareth Glyn yn ystyried ei hun yn newyddiadurwr, ond yn gyflwynydd sy'n gofyn y cwestiynau y byddai'r cyhoedd yn eu gofyn.
Bangor
Ar ôl dros 8,500 o rifynnau o'r Post Prynhawn, dywedodd ei bod wedi bod yn 'fraint ac anrhydedd' i fod wrth y llyw ym Mangor.
"Yma yng Nghymru, dwi'n meddwl ei fod o'n ofnadwy o bwysig ein bod ni wedi cael rhaglen yn ddi-dor o Fangor," meddai.
"Nid achos fod o'n adlewyrchu rhywbeth Bangoraidd, ond i bobl wybod bod 'na ganolfan BBC yma.
"Mae o'n allweddol i ddyfodol y rhwydwaith.
"A dwi'n meddwl hefyd dylai'r holl sefyllfa ehangu ac y dylid cael mwy o ganolfannau rhanbarthol."
Bydd y drefn newydd ar Post Prynhawn yn cychwyn ar Ionawr 21.
Bryd hynny, bydd Gareth Glyn yn gallu treulio llawer mwy o'i amser ar ei waith cyfansoddi.
Ond dywedodd y bydd wir yn colli her yr ystafell newyddion, a bydd yn gorfod "sleifio 'nol am baned o goffi" gyda'i hen gyfeillion nawr ac yn y man.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2012