Eos: AS am i lywodraeth ymyrryd
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams, wedi galw ar Lywodraeth y DU i ymyrryd yn y ffrae rhwng y BBC ac Eos, yr asiantaeth hawliau cerddorol.
Ei gynnig oedd bod Tŷ'r Cyffredin "yn credu bod y berthynas rhwng y BBC a'r PRS yn codi cwestiynau ynglŷn â monopolïau yn y diwydiant cerdd a bod angen i'r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau ymchwilio i'r mater ar frys".
Dywedodd y dylai'r anghydfod gael ei ddatrys "ar frys" am ei fod yn cael "effaith negyddol ar ddarlledu cyhoeddus".
Dywedodd Gweinidog y Swyddfa Gymreig, Stephen Crabb, nad oedd hwn yn fater i'r llywodraeth am fod "hon yn drafodaeth gytundebol rhwng y BBC ac artistiaid".
"Serch hynny, rwy'n gobeithio y bydd y mater yn cael ei setlo."
Bryn Fôn
Gwahoddodd Plaid Cymru y canwr Bryn Fôn, ysgrifennydd Eos, i'r Senedd yng Nghaerdydd ddydd Mercher.
Dywedodd na fyddai o blaid trefn cymodi annibynnol.
"Bydd rhaid i ni gael cytuneb ... ond mae cymodi annibynnol yn rhyw fath o ymarfer. Ticio bocsus ydi o."
Mae Eos, sy'n cynrychioli tua 300 o gerddorion Cymraeg, am i'r BBC wella'r cynnig ynglŷn â thaliadau i gerddorion, awduron a chyhoeddwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Ein safbwynt ni yw ein bod yn cytuno'n llwyr ag Eos y dylai'r datrysiad fod yn deg ac y dylid setlo'r mater cyn gynted â phosibl.
"Dyna pam ein bod yn annog Eos i ymateb i'r cynnig am gymodi annibynnol yn gyflym fel bod modd ennill tir."
Proses gymodi
Doedd 'na ddim cytundeb rhwng y BBC ac Eos wedi'r trafodaethau diweddara' yr wythnos ddiwethaf gyda phosibilrwydd y bydd yr anghydfod yn para am dros fis.
Ond mae'r BBC yn dweud bod Eos wedi cytuno i ystyried bod yn rhan o broses gymodi annibynnol.
Yn lle defnyddio corff cymodi swyddogol mae'r gorfforaeth wedi dweud y byddai'n fwy tebygol mai person annibynnol fydd yn cynnal y broses - cyfreithiwr neu arbenigwr yn y diwydiant.
Mae'r BBC yn cynnig talu am y broses.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2013