Adeiladu: Cynhyrchiant yn gostwng 13% yn 2012

  • Cyhoeddwyd
Safle adeiladu
Disgrifiad o’r llun,

Disgwylir i nifer y swyddi yn y diwydiant adeiladu sefydlogi erbyn 2015

Roedd 2012 yn gyfnod anodd i'r diwydiant adeiladu yng Nghymru ond fe fydd pethau'n gwella, yn ôl adroddiad newydd.

Roedd 'na ostyngiad o 13% yn yr hyn a gafodd ei gynhyrchu'r llynedd.

Ond mae'r Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu (RSA) yn rhagweld y bydd pethau yn sefydlogi o fewn dwy flynedd, cyn i'r diwydiant ddechrau tyfu.

Dywed yr adroddiad gan y RSA y bydd adeiladu atomfa Wylfa B ar Ynys Môn yn cynyddu nifer y swyddi yn y diwydiant ond bydd y nifer yn dal yn llai na 100,000.

'Diffyg buddsoddiad'

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n bwriadu gwario £1.1bn ar waith rhwydwaith mewnol.

Disgwylir i nifer y swyddi yn y diwydiant adeiladu sefydlogi erbyn 2015 gyda rhyw 93,000 o bobl yn gweithio yn y sector erbyn diwedd 2017.

Ond bydd y nifer hwn yn 23% yn llai na'r uchafswm yn 2007.

Y disgwyl yw i'r sector tai preifat cynyddu 3.1% ar gyfartaledd, gyda chynnydd mewn swyddi ymysg plastrwyr o 1.4% a chynnydd ymysg swyddi tirfesuryddion o 1% rhwng nawr a 2017.

Dywedodd Wyn Prichard, cyfarwyddwr Cymru Sgiliau Adeiladu CITB: "Cafodd y diwydiant adeiladu ei fwrw'n galed gan gyfuniad o doriadau i'r sector cyhoeddus a diffyg buddsoddiad yn y sector preifat yn 2012.

£1.1 biliwn

"Fel y corff mwyaf blaenllaw o ran sgiliau yn y sector adeiladu, rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru, cyflogwyr a deiliaid eraill i helpu tyfiant ar lefel lleol a chenedlaethol."

Dywedodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt: "Ers mis Mai'r llynedd rydym wedi creu pecyn buddsoddiad o £1.1 biliwn i ariannu ein blaenoriaethau o ran isadeiledd.

"Mae hwn yn swm sylweddol ac mae'n dangos ein hymrwymiad i adfywio tyfiant economaidd, creu swyddi a lleihau tlodi yng Nghymru.

"Yn ystod y misoedd diwethaf rwyf wedi ymweld ag ysgolion, ysbytai, cynlluniau trafnidiaeth a chynlluniau Dechrau'n Deg yng Nghymru ac rwyf wedi gweld bod y cyllid cyfalaf ychwanegol hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i ansawdd bywydau pobl.

"Rwyf wedi gweld sut mae'r arian hwn wedi helpu'r diwydiant adeiladu i greu swyddi a chefnogi busnesau lleol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol