Cyflogwyr Cymru'n optimistaidd
- Cyhoeddwyd
Mae cyflogwyr yng Nghymru yn llawer mwy optimistaidd am gyflogi staff newydd nag ar unrhyw adeg ers 2007, medd arolwg newydd.
Mae'r arolwg wedi canfod mai'r diwydiant yswiriant sy'n arwain y ffordd, gyda llawer o swyddi'n cael eu creu mewn canolfannau galwadau.
Daw'r canlyniadau ychydig cyn i'r ystadegau diweithdra diweddaraf gael eu cyhoeddi.
Roedd ffigyrau diwethaf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod diweithdra wedi gostwng 7,000 yng Nghymru rhwng Ebrill a Mehefin - i lawr i 126,000.
Tro pedol
Cwestiwn yr arolwg gan gwmni Manpower i gyflogwyr oedd a oedden nhw'n bwriadu cyflogi staff newydd neu dorri'n ôl?
Wrth baratoi'r canlyniad net, mae'r arolwg yn tynnu'r cyflogwyr sy'n bwriadu lleihau nifer y staff oddi wrth y rhai sy'n bwriadu cyflogi mwy.
Mae'r rhagolygon swyddi ar gyfer Cymru ym mhedwerydd chwarter 2012 yn 15% - mae hynny'n uwch na'r ffigwr am y DU a 3% yn uwch nag ar unrhyw adeg ers ail chwarter 2007.
Meysydd arian a busnes oedd y sectorau mwyaf positif, ond roedd y rhagolwg yn fwyaf llwm ym maes adeiladu.
Dywedodd rheolwr gweithredu Manpower, Andrew Shellard, bod y rhagolygon am swyddi yng Nghymru wedi gwneud tro pedol.
"Doed dim amheuaeth i ba gyfeiriad y mae swyddi yn mynd," meddai.
"Rydym yn gweld llawer o gyfleoedd yn y sectorau yswiriant ac iawndal ariannol ar hyn o bryd, yn enwedig mewn canolfannau galwadau, ac rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y swyddi gwag i beirianwyr a gyda chwmnïau gwasanaethau (dŵr, trydan ac ati).
"Ond nid yw'n amser i laesu dwylo. Dylai pobl barhau i fod yn benodol wrth dargedu swyddi, a mynd am swyddi lle mae ganddynt y sgiliau mwyaf perthnasol."
Ansicr
Er gwaethaf arwyddion o welliant yn y raddfa diweithdra, mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio bod y rhagolygon economaidd yn parhau i fod yn ansicr.
Ddydd Llun, cyhoeddwyd bod ffatri ym Merthyr yn mynd i gau gan golli bron 150 o swyddi.
Mae ffatri Ardagh yn Abercanaid hefyd wedi ei glustnodi i gau ym mis Mai, gyda'r gwaith yn symud i Sir Nottingham ac i Norwich.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2012
- Cyhoeddwyd10 Medi 2012
- Cyhoeddwyd31 Mai 2012