Triwantiaeth: Llywodraeth dan y lach
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwr blaenllaw ar driwantiaeth wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am fod yn "boenus o araf" wrth fynd i'r afael â'r broblem.
Yn 2008, arweiniodd yr Athro Ken Reid adolygiad i bresenoldeb ac ymddygiad yn ysgolion Cymru.
Dywedodd fod ei adolygiad wedi cael croeso gwresog gan weinidogion ar y pryd, ond nad ydyn nhw wedi gweithredu ei argymhellion i wella hyfforddiant ar gyfer athrawon.
Wrth roi tystiolaeth i Aelodau Cynulliad, dywedodd fod gormod o blant ddim yn cael asesiad o'u hanghenion.
Mewn cyfraniad ysgrifenedig i Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad, dywedodd yr Athro Reid fod hyfforddiant cychwynnol athrawon yn wael o ran eu paratoi i reoli presenoldeb ac ymddygiad.
'Siomedig'
Galwodd ei adolygiad yn 2008 am "gynnydd sylweddol" yn y cyllid ar gyfer hyfforddiant.
"Er hyn," meddai, "mae symud ymlaen gyda gweithredu argymhellion yr Adolygiad Cenedlaethol i Bresenoldeb ac Ymddygiad am ddarparu hyfforddiant priodol i bob aelod o staff sy'n gweithio ym meysydd presenoldeb ac ymddygiad wedi bod yn boenus o araf ac yn siomedig."
Bum mlynedd wedi ei adroddiad - ac er gwaethaf canfyddiadau tebyg mewn adroddiadau blaenorol - dywedodd bod y mwyafrif o staff yn yr un sefyllfa.
Mae athrawon newydd yng Nghymru yn cael eu hannog i gymryd cwrs ôl-radd, gyda'r Gweinidog Addysg yn dweud y bydd hyn yn gymorth i godi safonau mewn ysgolion.
Er bod y cwrs Meistr Addysg yn cynnwys sgiliau i daclo ymddygiad drwg, awgryma'r Athro Reid fod angen gwneud mwy.
Mae hyfforddiant penodol ar ymddygiad a phresenoldeb ar gael i benaethiaid ysgolion yn Lloegr drwy'r cynllun arweiniad ysgolion, ond "does dim darpariaeth debyg yn bodoli yng Nghymru ac mae mwyafrif penaethiaid ac athrawon yn parhau i 'ddysgu wrth wneud eu gwaith'."
Gwelliant
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Pan nad yw plentyn yn yr ysgol, nid yw'r plentyn yn dysgu.
"Rydym yn cydnabod fod absenoldeb parhaus yn gallu cael effaith niweidiol ar addysg plentyn.
"Mae ystadegau o fis Medi yn dangos bod presenoldeb yn ysgolion uwchradd Cymru wedi gwella o 0.8 pwynt canran o'r flwyddyn flaenorol. Dyma'r cynnydd blynyddol mwyaf dros y saith mlynedd ddiwethaf ac yn dangos bod y camau yr ydym wedi eu cymryd i wella lefelau presenoldeb yn ysgolion Cymru yn dechrau cael effaith.
"Rydym wedi cyflwyno nifer o fesurau i wella presenoldeb yn ein hysgolion. Mae ein Fframwaith Dadansoddi Ymddygiad a Phresenoldeb yn defnyddio data cadarn i adnabod problemau presenoldeb yn gynnar.
"Mae cyflwyno bandio ysgolion uwchradd, lle mae data absenoldeb yn rhan o benderfynu band ysgol, hefyd yn ymddangos fel pe bai wedi bod yn ffactor yn ystadegau newydd, gwell yma."
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cynllun i gyflwyno cosbau penodol i rieni plant sy'n chwarae triwant.
Maen nhw'n ymgynghori ar gynllun i gyflwyno dirwy o £60 i rieni os yw eu plant yn colli gormod o ddiwrnodau ysgol, gyda'r ddirwy yn codi i £120 os nad yw'n cael ei thalu o fewn 28 diwrnod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2012