Ymgynghori ar gynllun triwantiaeth

  • Cyhoeddwyd
Person ifanc
Disgrifiad o’r llun,

Mae taclo triwantiaeth yn uchel ar restr flaenoriaethau'r Gweinidog Addysg

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi dechrau ymgynghoriad ar sut i ddelio gyda thriwantiaeth.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews bod taclo'r broblem yn uchel yn ei flaenoriaethau i wella safonau addysg yng Nghymru.

Yn 2010-11 yng Nghaerdydd yr oedd y raddfa ucha' o absenoldeb heb ganiatâd mewn ysgolion uwchradd (2.9%) tra bod y nifer isa' yn Sir y Fflint, Powys a Chastell-nedd Port Talbot (0.5%).

Mewn ysgolion cynradd roedd y raddfa ucha' o 1.7% ym Mro Morgannwg a Chaerdydd a'r isa' yn Sir Fynwy, 0.2%.

Er bod gweinidogion wedi ymatal rhag cyflwyno cosb i rieni plant sy'n absennol o'r ysgol yn gyson - mae cosbau fel hyn yn bodoli mewn rhannau o Loegr ers 2004 - mae disgwyl y bydd cyflwyno cosb yng Nghymru o hyd at £120 yn y ddogfen ymgynghori.

Mae swyddogion Mr Andrews wedi bod yn cwrdd â phob un o'r 22 awdurdod lleol er mwyn dadansoddi eu hystadegau triwantiaeth.

Fe fydd ffyrdd eraill o fynd i'r afael â'r broblem, gan gynnwys cyflwyno rhybuddion penodol, yn cael eu hystyried yn ogystal.

Pryderon

Pan ddywedodd Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin eu bod wrthi'n paratoi cynlluniau ar y mater, dywedodd yr Athro Ken Reid o Brifysgol Fetropolitan Abertawe - awdur adolygiad o bresenoldeb ac ymddygiad ar ran Llywodraeth Cymru - fod ganddo bryderon am y cynllun, a dywedodd:

"Gwendid y cynlluniau yw eu bod yn debygol o dargedu'r rhieni mwyaf bregus a rhai sy'n agos iawn at fyw mewn tlodi.

"O dan gyfraith Ewrop rhaid trin rhieni yn yr un sefyllfa yn gyfartal."

Yn Lloegr, fe gafodd 32,641 o rybuddion cosb penodol eu cyflwyno yn 2010/11 - cynnydd o'r 25,657 a roddwyd yn 2009/10 ac 20,887 yn 2008/09.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin eleni: "Mae'r Gweinidog wedi mynegi pryder am lefelau absenoldeb yn ysgolion Cymru, ac rydym yn ystyried sut y byddai sustem o gosbau am absenoldeb cyson yng Nghymru yn gweithio yn ymarferol ochr yn ochr â strategaethau eraill a'r system gefnogol sydd eisoes yn bodoli."