Trethu: 'Dilyn esiampl Lloyd George'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru o blaid gostwng lefel treth incwm o 20% i 18% os yw un o brif argymhellion Comisiwn Silk ar bwerau Llywodraeth Cymru yn cael ei weithredu.
Dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Kirsty Williams, ei bod yn cefnogi "Cyllideb y Bobl," gan ddilyn esiampl David Lloyd George o Lanystumdwy.
"Wrth i ni goffáu ei enedigaeth ganrif a hanner yn ôl, mae'n briodol i ni gnoi cil am ei gyfraniad i wleidyddiaeth.
"Mae'r comisiwn yn gyfle i ni feddwl ar gynfas ehangach ... a meddwl am drefn drethu mwy blaengar.
"Yr argymhelliad allweddol," meddai, "yw'r hawl i newid graddfeydd treth ac o ganlyniad, mae'n bosibl newid y raddfa dreth i'r tlotaf.
"Mi fyddai gostwng y dreth i 18% yn golygu £750 yn fwy i'r tlotaf a hynny ar gost o £350m."
Dywedodd y byddai 'na le hefyd i fwy o drethu amgylcheddol.
'Newid pwyslais'
"Mae hynny'n unol â gweledigaeth Lloyd George i newid pwyslais y baich trethu o'r hyn mae cymdeithas yn ystyried yn dda, swyddi ac ennill cyflog, i'r hyn mae cymdeithas yn ystyried yn ddrwg, llygru'r amgylchedd.
"Mi fydd yn anodd llenwi'r bwlch fyddai yn incwm y llywodraeth drwy leihau treth ar gyflogau."
Mewn erthygl ar flog y Sefydliad Materion Cymreig, mae hi'n "addo ceisio lleihau'r dreth i bobl ar incwm cyfartalog."
"Mae Lloyd George yn cael ei gofio fel meddyliwr gwleidyddol blaengar ac fel gwleidydd oedd yn gosod buddiannau pobl gyffredin yn gyntaf.
"Mae'r byd wedi newid ond mae egwydorion y 'Dewin o Gymru' yn aros yr un mor briodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2013