Dathlu cyfraniad gŵr a gwraig
- Cyhoeddwyd
Mae digwyddiad arbennig wedi rhoi teyrnged i Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney.
Agorodd Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog, ger Pwllheli eu drysau ar gyfer Diwrnod Caneuon Gwerin dros y penwythnos.
Cafodd aelodau'r cyhoedd gyfle i wrando ar gyfweliad arbennig gyda Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney a recordiwyd ym mis Awst 2012.
Fel rhan o'r digwyddiad roedd cerddorion ifanc yn cydweithio ag Elinor Bennett, Gwenan Gibbard ac Angharad Jenkins o'r grŵp Calan mewn gweithdai yn ystod y prynhawn.
'Chwedlonol heintus'
Mae Meredydd Evans a Phyllis Kinney yn sêr y byd canu gwerin ac wedi cyfrannu'n helaeth i'r traddodiad, gan ryddhau nifer o albymau.
Y delynores Elinor Bennett oedd wedi holi'r ddau yn eu cartref yng Nghwmystwyth, Ceredigion.
Dywedodd y delynores, sydd wedi rhyddhau 12 albwm unawd: "Roedd yn fraint aruthrol i mi gael cyfweld Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney am ganeuon gwerin Cymru.
"Fe ddysgais gymaint ganddyn nhw. Mae brwdfrydedd Merêd yn chwedlonol heintus ac mae gwrando arno'n siarad yn siŵr o greu llawer o ddiddordeb yn ein canu gwerin."
Yn Awst 2012 fe dreuliodd hi ddau ddiwrnod yn recordio cyfweliad gyda'r ddau am gerddoriaeth draddodiadol Cymru, gyda Peter Telfer o gwmni Culture Colony yn ffilmio'r cwbl.
'Cariad aruthrol'
Mae'r cyfweliadau ar ffurf sgyrsiau anffurfiol ac yn canolbwyntio ar waith Merêd a Phyllis yn canu, dysgu, ac yn ymchwilio i gerddoriaeth draddodiadol Cymru dros gyfnod hir.
Dywedodd y delynores: "Roeddwn yn teimlo'n gryf fod angen cofnodi'r wybodaeth ddofn a thrylwyr, a'r brwdfrydedd a chariad aruthrol sydd gan Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney at ein canu gwerin traddodiadol a'n barddoniaeth.
"Fe wnaeth y profiadau rydw i wedi eu cael gyda'r ddau dros y blynyddoedd fy ysbrydoli i drefnu'r cwrs er mwyn gallu rhannu'r profiadau yma gydag eraill oedd yn awyddus i wybod mwy ac i ddysgu'r caneuon y sonnir amdanyn nhw yn y ffilm."
Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Ganolfan Gerdd Wiliam Mathias, gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Gwynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2012
- Cyhoeddwyd4 Mai 2012