BBC yn rhybuddio y gallai gwaharddiad ysmygu olygu ffilmio yn Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Bonyn sigarétFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae ysmygu wedi ei wahardd mewn llefydd cyhoeddus yng Nghymru ers mis Ebrill 2007

Mae BBC Cymru'n rhybuddio ACau efallai y bydd rhaid ffilmio rhai dramâu dros y ffin os nad yw gwaharddiad ar ysmygu yn cael ei lacio.

Ym mis Ebrill 2007 cyflwynwyd gwaharddiad ar ysmygu mewn adeiladau fel siopau, tafarndai a bwytai ac mewn llefydd cyhoeddus caeedig, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus.

Yn Lloegr mae modd eithrio o'r gwaharddiad yn achos cynyrchiadau drama a ffilm.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod o blaid cael eithriad tebyg yng Nghymru ond mae mudiadau gwrth-ysmygu fel ASH yn gwrthwynebu.

Mae BBC Cymru a chyrff y diwydiant ffilm yn galw am lacio'r gwaharddiad er mwyn caniatau i actorion danio sigaréts ar y sgrin.

Yn eu tystiolaeth i ACau ddydd Mawrth bydd y BBC yn dadlau y byddai ffilmio yn Lloegr neu ddefnyddio delweddau y mae cyfrifiaduron yn eu creu - yn y broses ôl-gynhyrchu - yn golygu costau ychwanegol.

Trafod

Ar hyn o bryd mae penaethiaid yn trafod lleoliadau ar gyfer drama o'r enw The Game ynghylch ysbiwyr yn y 1970au.

Mae'n debyg y bydd cymeriadau yn y ddrama yn ysmygu oherwydd y cyfnod a'r pwnc dan sylw.

"Mae'n bosib y bydd y ddeddf yng Nghymru'n effeithio ar y penderfyniad terfynol," meddai llefarydd ar ran BBC Cymru.

"Rydym yn credu y byddai eithrio o'r gwaharddiad yn arwain at fwy o fudd i economi Cymru."

Dywedodd y gallai'r ddeddf bresennol olygu bod cynhyrchwyr yn penderfynu peidio â ffilmio rhaglenni yng Nghymru.

Fe fydd 'na bleidlais ar y mater yn Y Senedd yn ddiweddarach eleni.

Yn eu cyflwyniad ar gyfer cyfarfod yr is-bwyllgor ddydd Mawrth, mae ASH Cymru yn dweud bod eithriad "yn gwbl ddianghenraid" ac y byddai'n "gam difrifol yn ôl" i Gymru.

"Nid yn unig y byddai eithriad ar sail fasnachol yn tanseilio ymdrechion llywodraeth Cymru ar reoli tybaco a thaclo salwch, fe fyddai'n agor y llifddorau ar gyfer sialensiau yn y dyfodol i'r ddeddfwriaeth gan ddiwydiannau eraill sy'n barnu bod y ddeddf yn cael effaith ar eu helw," meddai'r cyflwyniad.

"Petai'r eithriad yn cael ei gymeradwyo ar sail cefnogi diwydiant penodol, gallwn ddisgwyl degau o geisiadau gan eraill, fel tafarndai, clybiau a'r diwydiant twristiaeth am eithriadau o ganlyniad i broblemau economaidd anodd.

"Lle'r unwaith yr oedd Cymru yn arwain y ffordd ym Mhrydain yn galw am waharddiad ysmygu, fe allai Cymru fod yn gyfrifol am ei datgymalu hefyd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol