Carwyn Jones: 'Rhaid i'r Gwasanaeth Iechyd newid'
- Cyhoeddwyd
Bydd bywydau pobl mewn perygl os na fydd y Gwasanaeth Iechyd yn newid, yn ôl Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones.
Dywedodd wrth Aelodau'r Cynulliad fod angen rhoi triniaeth i rai anhwylderau mewn canolfannau rhagoriaeth.
Ychwanegodd na allai Llywodraeth Cymru roi barn am gynigion penodol oherwydd y gallai penderfyniadau dadleuol gael eu cyfeirio at weinidogion.
Daw sylwadau Mr Jones wrth i fyrddau iechyd lleol Cymru gyhoeddi cynlluniau am sut y byddan nhw'n darparu gwasanaethau.
'Atebion gwyliadwrus"
Gallai cynigion gael eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru os bydd cynghorau iechyd cymunedol yn eu gwrthwynebu.
Mae Byrddau Iechyd Hywel Dda a Betsi Cadwaladr eisoes wedi cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer Gogledd Cymru, y Canolbarth a De Orllewin Cymru.
Y disgwyl yw i weddill byrddau iechyd Cymru gyhoeddi eu cynlluniau maes o law.
Yn ystod sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn y Senedd honnodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood fod y Prif Weinidog yn rhoi atebion "gwyliadwrus" ynghylch ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd.
Gofynnodd Ms Wood a oedd Mr Jones yn cytuno â chynnig i symud gofal dwys arbenigol ar gyfer babanod o Ogledd Cymru i Loegr.
Galwodd hi ar y Prif Weinidog i "wrthwynebu canoli gwasanaethau sy'n peryglu bywydau, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd gwael".
'Lleisio barn'
Dywedodd Mr Jones ei fod am weld "gwasanaethau diogel a chynaliadwy," gan ychwanegu: "Fyddai'r un llywodraeth yn cefnogi unrhyw gynllun fyddai'n peryglu bywydau".
Roedd yn amhosib, meddai, i weinidogion leisio barn ynghylch cynigion unigol oherwydd "does dim dwywaith y byddai'n cael ei defnyddio mewn unrhyw adolygiad barnwrol".
"Fe fyddwn ni fel llywodraeth yn lleisio barn maes o law," meddai.
Gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew R T Davies, i Lywodraeth Cymru ystyried cynigion y Ceidwadwyr i helpu busnesau bychain i fenthyca arian cyhoeddus drwy fanciau'r stryd fawr.
Dywedodd Mr Jones fod gan y llywodraeth ystod o gynlluniau i helpu busnesau a'u bod wedi comisiynu adolygiad ynghylch credyd i fusnesau.
Yr arbenigwr economaidd Ceidwadol Dylan Jones-Evans fydd yn arwain yr adolygiad.
Gofynnodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams, a fyddai modd trosglwyddo arian oedd heb ei wario gan y cynllun cymhorthdal ffermio, Glastir i ffermydd yn yr ardaloedd mwyaf heriol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Dywedodd Mr Jones fod Llywodraeth Cymru yn darparu'r "lefel briodol o gymorth" i ffermwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2013