Cyfle i weld a thrafod dyfodol 'Gardd Yr Arglwydd' yn Rhuthun

  • Cyhoeddwyd
Gerddi'r tŷ, sydd yn Stryd y Castell yn Rhuthun
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ardd wedi'i lleoli y tu ôl i Nantclwyd y Dre, tŷ trefol ffrâm-bren hynaf Cymru

Mae gerddi tŷ hanesyddol yng Ngogledd Cymru ar agor i'r cyhoedd am y tro cyntaf.

Bydd y diwrnod ddydd Sadwrn yn cynnig cyfle i weld 'Gardd yr Arglwydd' a mynegi barn ynglŷn â'i hadfer yn Nantclwyd y Dre, Rhuthun, Sir Ddinbych.

Dydi'r ardd ddim wedi bod ar agor i'r cyhoedd o'r blaen.

Does neb wedi gwneud unrhyw beth iddi ers degawdau chwaith.

Mae'r ardd wedi'i lleoli y tu ôl i Nantclwyd y Dre, tŷ trefol ffrâm-bren hynaf Cymru.

Mae wedi ei chofrestru gyda Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, fel gardd restredig Gradd II, ac sydd o arwyddocâd cenedlaethol.

Cynllun adfer

Gelwid hi'n wreiddiol yn Erw'r Arglwydd, ac fe'i sefydlwyd fel perllan a gardd lysiau ar gyfer Reginald de Grey o Gastell Rhuthun yn 1282, wedi ei ryfelgyrch yn erbyn Llywelyn ap Gruffydd, Tywysog olaf y Gymru annibynnol cyn iddi gael ei gorchfygu gan Edward I

Disgrifiad o’r llun,

Dechreuwyd adeiladu tŷ trefol ffrâm bren hynaf Cymru yn 1435-6.

Wedi cais llwyddiannus i Gronfa Dreftadaeth y Loteri, â grant o £26,100, wedi ei ddyfarnu i Wasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych ar gyfer datblygu cynlluniau i adfer Gardd Yr Arglwydd.

Nod y prosiect ar hyn o bryd yw casglu gwybodaeth hanesyddol am yr ardd a gweithio gyda'r gymuned leol i lunio cynllun adfer.

Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: "Rydym wedi dyfarnu llwyddiant rownd-gyntaf mewn cydnabyddiaeth o botensial y prosiect, a'r budd a allai ddod i'r ardal leol yn ei sgil.

"Mae cystadleuaeth enfawr am ein grantiau, felly mae ar Wasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych angen yn awr i ddatblygu ei gynlluniau'n llawn er mwyn cystadlu am ddyfarniad cadarn."

Dywedodd Wendy Williams o Brosiect Adfer Gardd yr Arglwydd: "Mae'r ardd yn drysor cudd gwirioneddol.

"Bydd ei hadfer yn diogelu ac yn ychwanegu at dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Rhuthun."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol