Dadorchuddio trysorau hen eglwys

  • Cyhoeddwyd
Eglwys Santes Dwynwen
Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r olygfa hon heb weld golau dydd ers y 1950au

Mae'r rhai sy'n gyfrifol am adfer eglwys hynafol ar Ynys Môn yn gwahodd y cyhoedd i weld y gwaith sydd wedi cael ei gwblhau hyd yma.

Daw'r gwahoddiad i ymweld ag Ynys Llanddwyn ar Ddydd Santes Dwynwen, Santes cariadon Cymru ar Ionawr 25.

Yn ôl Cadw mae'r gwaith wedi sicrhau bod rhannau o Eglwys Santes Dwynwen i'w gweld unwaith eto am y tro cyntaf ers 200 mlynedd.

Hefyd dywed arbenigwyr bod mynedfa gerrig oedd dan dywod a heb ei gweld ers 1950au i'w gweld unwaith yn rhagor.

'Cyffrous'

Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid symud tunelli o dywod er mwyn dadorchuddio'r bwa

Mae'n debyg i'r eglwys gael ei chodi yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ac roedd yn cael ei defnyddio tan ddechrau'r ugeinfed ganrif.

Yn ôl chwedloniaeth roedd Dwynwen yn un o 24 o ferched y brenin Brychan.

Fe wnaeth hi syrthio mewn cariad â dyn ifanc o'r enw Maelon.

Ei stori drist a chymhleth hi wnaeth arwain at eglwys yn cael ei sefydlu yn ei henw.

Menter Môn sy'n arwain y prosiect i adfer yr eglwys, gyda chymorth cyllido gan Cadw.

Dywedodd Ian Halfpenney, arolygwr gyda Cadw, fod y gwaith yn hynod gyffrous.

"Rydym wedi symud tywod oedd wedi casglu o fewn yr eglwys, a drwy wneud hynny mae rhannau o'r adeilad gwreiddiol i'w gweld eto, a hynny am y tro cynta am 200 mlynedd.

"Rydym hefyd wedi dadorchuddio stepiau a mynedfa o'r oesoedd canol."

Mae olion yr eglwys, sydd i'w gweld o fewn ffiniau wal gylchog y fynwent, wedi eu cofrestru.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cyfle i'r cyhoedd ymwled â'r safle ar Ddydd Santes Dwynwen

Fe gychwynnodd y gwaith fis Medi diwethaf a'r gobaith yw ei gwblhau erbyn mis Mai neu Fehefin.

"Bydd y gwaith rydym yn ei wneud yn ei gwneud yn haws i bobol ymweld â'r safle a chael gwell syniad o'r hyn oedd yma, " meddai Mr Halfpenney

Cyn i'r gwaith adfer presennol ddechrau cafwyd caniatâd i gynnal gwaith archeolegol ar y safle cyfagos.

Gellir olrhain y cloddiau pridd i oes y Celtiaid.