Pryder am y siopau bach yng nghanol problemau economaidd
- Cyhoeddwyd
Mae un o siopau bach tre' Llandeilo ar fin cau.
Dywedodd perchennog siop flodau Pinc yn y dref mai penderfyniad personol oedd hyn ond nad hi oedd yr unig un i gloi'r drws yn y dref ar hyn o bryd.
Dros yr wythnosau diwetha' mae problemau rhai o siopau cadwyn mawr - HMV, Jessops a Blockbusters - wedi bod yn y newyddion.
Mae hynny yn un arwydd go gryf o natur fregus yr economi yn gyffredinol.
Fore Gwener mae disgwyl i lywodraeth y DU gyhoeddi'r ffigyrau Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) diweddaraf, ac mae pryder y gallai'r ffigyrau ddangos bod economi Prydain yn crebachu unwaith eto.
Ond mae 'na ansicrwydd am y siopau llai sy'n aml yn gonglfaen i'r economi yn enwedig yn ein trefi cefn gwlad hefyd.
Yn nhref Llandeilo mae sawl busnes annibynnol wedi neu yn y broses o gau'n derfynol.
Ac mae nifer yno yn poeni am ddyfodol y dref.
Mae'r brif stryd wedi bod ar gau am gyfnod sylweddol wrth i waith gosod pibau nwy newydd gael ei wneud.
'Sefyllfa anodd'
Yn ôl siopwyr, dydi hynny ddim wedi helpu'r sefyllfa.
Yr hyn sy'n taro rhywun yn syth wrth gerdded drwy ganol y dref yw'r tawelwch o ganlyniad i'r gwaith a fydd yn parhau am dri mis arall.
Ond wedi wyth mlynedd mae Nia Prydderch yn rhoi'r gorau i'r siop flodau, Pinc.
"Mae 'na deimlad o dristwch wrth gwrs ac mae'r dref wedi ei gweld yn anodd dros y tair blynedd diwethaf," meddai.
"Dwi wedi dod i'r casgliad bod hi'n bryd i fi fynd.
"Sai moyn gweld blwyddyn anodd arall."
Dywedodd ei bod yn cael 20 ceiniog o elw o brynu rhosyn am 50c a'i werthu am £1.50.
"Mae'r gweddill yn mynd at redeg y siop.
"Mae'r gwaith tu fas i'r siop ar y ffordd wedi cyflymu'r penderfyniad i gau.
"Dwi o'r farn bod angen gwneud y gwaith ond mae cael tri mis o fod yr hewl ar gau yn mynd i fod yn anodd."
Dywedodd bod wyneb y dre wedi newid sawl gwaith ers ei bod hi'n rhedeg y siop a bod y dref wedi wynebu sawl dirwasgiad.
"Mae hynny yn beth da mewn ffordd gan fod angen amrywiaeth ond y trueni yw ein bod ni'n colli pobl dda yn y broses o newid.
"All hi ddim mynd yn waeth a gobeithio ymhen blwyddyn na fydd 'na siope' eraill yn mynd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2012