Rees yn gadael y Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Matthew ReesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Matthew Rees dros 150 o weithiau dros y Scarlets ers 2004

Mae bachwr Cymru a'r Llewod Matthew Rees wedi penderfynu gadael y Scarlets ar ôl naw mlynedd gyda'r rhanbarth.

Cyhoeddodd y Gleision fod Rees wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd i ymuno gyda thîm y brifddinas ar ddechrau'r tymor nesaf.

Chwaraeodd Rees dros Gymru am y tro cyntaf yn 2005, ac enillodd 57 o gapiau ers hynny.

Cafodd ei ddewis hefyd i garfan y Llewod yn 2009, gan chwarae yn y tair gêm brawf yn erbyn De Affrica.

Mae Rees wedi bod yn cystadlu am le yn nhîm y Scarlets gyda bachwr arall Cymru Ken Owens, a dywedodd Rees:

"Mae gadael y Scarlets wedi bod yn benderfyniad anodd ar ôl bod yno ers cyhyd. Dyma le y gwnes i sefydlu fy hun fel chwaraewr, ond rwy'n teimlo mai dyma'r penderfyniad iawn yn y cyfnod yma yn fy ngyrfa.

"I mi'n bersonol, rwy'n teimlo y bydd symud i'r Gleision yn rhoi her newydd i mi."

Ar ôl cael ei fagu yn Nhonyrefail, chwaraeodd Rees i'r Rhyfelwyr Celtaidd a Phontypridd cyn ymuno â'r Scarlets yn 2004 a chwarae dros 150 o weithiau i'r rhanbarth.