Chwilio am drysorau i roi blas ar y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Dogfen o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf
Disgrifiad o’r llun,

Mae dyddiaduron, nodiadau, llythyrau a negeseuon telegram yn gofnod perosnol o'r rhyfel

Casglu eitemau sy'n ymwneud â'r Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn creu archif ddigidol yw bwriad prosiect cenedlaethol newydd.

Y gobaith yw datgelu hanes cudd y rhyfel a'r modd y cafodd effaith ar Gymru gyfan, yr iaith a'r diwylliant.

Y Llyfrgell Genedlaethol sy'n arwain y prosiect mewn partneriaeth â llyfrgelloedd, casgliadau arbennig ac archifau Cymru.

Caiff y casgliad digidol ei weld ar-lein.

Mae Casgliad y Werin Cymru, partner yn y prosiect, yn gwahodd y cyhoedd i fod yn rhan o'r cyfan drwy ddod â deunydd o'r cyfnod, neu bethau a oedd yn berchen i rywun oedd ar faes y gad, i un o gyfres o ddigwyddiadau lle y bydd staff ar gael i sganio llythyrau, ffotograffau, tystysgrifau, cardiau post, dyddiaduron ac unrhyw ddogfennau amrywiol eraill.

Mae'r digwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws Cymru yn ystod mis Mawrth.

Canfod trysorau

"Bydd gwahodd y cyhoedd i rannu deunydd yn galluogi'r prosiect i weld safbwynt llawer ehangach, personol ac agos at y galon o brofiadau'r Cymry'n yn ystod y Rhyfel, gan gael mynediad at eitemau sydd ddim ar gael mewn archifau a llyfrgelloedd yn aml," meddai Robert Phillips, Rheolwr y Prosiect.

Mae nifer o adrannau Casgliadau Arbennig prifysgolion Cymru yn rhan o'r prosiect.

Dywedodd Gethin Matthews, o Brifysgol Abertawe, eu bod yn gobeithio dod o hyd i drysorau fydd o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd ac o gymorth i ymchwil academaidd drwy gynyddu ymwybyddiaeth o'r profiad o fyw yng Nghymru yn ystod y Rhyfel.

"Yn nhermau gwerthfawrogi beth oedd profiad y Cymry yn ystod y Rhyfel, does dim i guro tystiolaeth ysgrifenedig gan bobl a fu'n byw trwy'r cyfnod.

"Yn ogystal â deunydd o gasgliadau teuluol, mae gen i ddiddordeb yng nghofnodion sefydliadau, fel capeli.

"Roedd ganddyn nhw rôl ganolog mewn nifer o gymdeithasau yng Nghymru, a gall eu hadroddiadau blynyddol helpu ni i ddirnad agweddau'r sefydliadau yma, a'u harweinwyr, i'r Rhyfel."

Yn ogystal â digwyddiadau i gasglu'r eitemau, mae modd cyfrannu eitemau neu atgofion trwy ymweld â gwefan Casgliad y Werin Cymru, dolen allanol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol