Wrecsam gam yn nes at Wembley wrth guro Southport yn Nhlws yr FA

  • Cyhoeddwyd
Joe ClarkeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Joe Clarke gafodd gôl gyntaf yr ymwelwyr a hynny yn erbyn llif y chwarae

Southport 1-3 Wrecsam

Mae Wrecsam gam yn nes at chwarae yn Wembley am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl iddyn nhw guro Southport o 3-1 yn Nhlws yr FA ac yn sicrhau eu lle yn y rownd gynderfynol.

Roedd 'na amheuaeth a fyddai'r gêm yn mynd yn ei blaen wedi'r tywydd gaeafol ond daeth cadarnhad am 1pm y byddai'r gêm yn cael ei chwarae yn Stadiwm Mersyrail.

Hynny wedi tri archwiliad yn ystod y bore o'r maes.

Cyn-chwaraewr Wrecsam, Shaun Whalley, gafodd y cynigion cyntaf i Southport ond wnaeth o ddim llwyddo.

Y tîm cartref oedd yn chwarae'r pêl-droed gorau ar gychwyn y gêm ac yn manteisio ar amodau anodd gyda'r tir yn llithrig iawn.

Ond wedi 27 munud fe ddaeth gôl i Wrecsam gyda Joe Clarke yn penio o groesiad Danny Wright er bod Robert Ogleby wedi colli cyfle i roi Wrecsam ar y blaen funudau yn gynharach.

Cyfleoedd gorau

Fe ddaeth y gôl i Wrecsam yn erbyn llif y chwarae.

Roedd Wrecsam wedi gwneud salw camgymeriad a doedden nhw wedi argyhoeddi.

Ond fe ddaeth ail gôl i'r ymwelwyr cyn yr egwyl gan Chris Westwood.

Rhwng y ddwy gôl i Wrecsam ac am gyfnodau yn yr ail hanner Southport oedd yn cael y cyfleoedd gorau ac yn bygwth sgorio.

Jay Harris gafodd drydedd gôl Wrecsam cyn i Southport daro'n ôl a chael gôl wedi 72 munud.

Fe ddaeth i Whalley o gic o'r smotyn wedi iddo gael ei faglu gan Ogleby.

Wedi gôl Southport cafodd y tîm cartref adfywiad ac wedi cael cyfleon da.

Fe allai fod yn hawdd wedi gorffen yn gyfartal ac mae'n debyg mai stori wahanol fyddai hi petai Southport wedi llwyddo gydag ail gôl.

Ond mae Wrecsam gam yn nes at y rownd derfynol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol