Cael gwared ar bysgod estron

  • Cyhoeddwyd
PendewFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pysgodyn yn bwyta wyau pysgod cynhenid

Mae gwaith yn dechrau ddydd Llun i geisio cael gwared ar bysgod estron o lynnoedd yn ardal Llanelli.

Bydd llynnoedd ym Mharc Arfordirol y Mileniwm yn cael eu gwagio er mwyn rheoli poblogaeth y pysgodyn pendew - Pseudorasbora parva - sy'n wreiddiol o Asia ac yn perthyn i deulu'r gwyniaid

Dywed Asiantaeth yr Amgylchedd y byddant yn ceisio diogelu cymaint o bysgod brodorol ag sy'n bosib cyn i gemegyn gael ei roi yn y llynnoedd er mwyn lladd y pendew

Bydd swyddogion yn draenio'r llynnoedd yn rhannol ac yn symud y pysgod brodorol megis cerpynnod, gwarchod, rhufell a rhuddbysgod.

Bydd y pysgod hyn yn cael eu rhoi'n ôl pan fydd y gwaith wedi'i orffen.

Bwyta wyau

Mae'n bwysig ein bod yn cael gwared ohonynt cyn iddynt gael effaith ddinistriol ar bysgod eraill

Er bod y cemegyn yn lladd pysgod, nid yw'n wenwynig i bobl, mamaliaid, adar na bywyd gwyllt arall.

Mae'r gwyniad pendew yn peryglu pysgod eraill drwy fwyta eu hwyau.

Cafodd y pysgodyn dŵr croyw bychan ei gludo i Ewrop ar ddamwain yn y 1960au wrth fewnforio pysgod eraill.

Er ei bod yn rhywogaeth niweidiol, mae'r pysgodyn mor fychan nad yw'n hawdd sylwi arno. Ond mae'n gallu poblogeiddio pyllau, llynnoedd a nentydd yn gyflym iawn.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad a Chyngor Sir Caerfyrddin yn cydweithio ar y prosiect.

Dywedodd Steve Brown, o'r Asiantaeth, fod y gwyniad pendew yn dod yn wreiddiol o Asia.

"Dylai'r pysgodyn ddim bod yn ein hafonydd na'n llynnoedd," meddai.

"Mae'n bwysig ein bod yn cael gwared ohonynt cyn iddynt gael effaith ddinistriol ar bysgod eraill."

Llygoden ddŵr

Nod y cynllun yw dileu'r pysgodyn o bump o byllau neu lynnoedd Parc y Mileniwm erbyn 2017.

Yn y cyfamser, mae prosiect arall i amddiffyn cynefin y llygoden ddŵr hefyd yn mynd rhagddo yn yr ardal.

Mae swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd yn ceisio rheoli poblogaeth y minc, creadur sy'n ymosod ar y Llygoden ddŵr.

Cafodd maglau eu gosod er mwyn dal y minc.

Ers chwe blynedd mae cadwraethwyr wedi bod yn dilyn rhaglen i geisio adfer poblogaeth y llygoden ddŵr yn yr ardal.

Y bwriad yn y pen draw yw ehangu'r boblogaeth i'r gwlypdir o amgylch Cydweli.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol